Arferion sy’n ystyriol o drawma: safbwynt ein polisi

Location: United Kingdom

Darganfyddwch pam y mae trawma yn fater polisi, a pha gamau y gall y llywodraeth eu cymryd i hyrwyddo arferion sy’n ystyriol o drawma ledled sefydliadau a gwasanaethau.

Mae’r crynodeb byr hwn o’r polisi yn rhan o gyfres sy’n nodi’r prif newidiadau y mae angen eu rhoi ar waith i wella iechyd meddwl. Mae’n defnyddio ymchwil a gwaith dadansoddi’r Sefydliad Iechyd Meddwl – gweler yr adran ‘deunyddiau darllen pellach’. 

Cynnwys 

Beth yw trawma? 

Mae trawma yn deillio o ddigwyddiad, cyfres o ddigwyddiadau, neu gyfres o amgylchiadau a ddaw i ran unigolion – sef digwyddiad, digwyddiadau neu amgylchiadau sy’n achosi niwed corfforol neu emosiynol, neu sy’n peryglu bywyd, gan gael effaith niweidiol barhaol ar y modd y mae’r unigolion dan sylw yn gweithredu ac ar eu llesiant meddyliol, corfforol, cymdeithasol, emosiynol neu ysbrydol. 

Gweinyddiaeth Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau Adran Iechyd a Gwasanaethau Dynol yr Unol Daleithiau.[1]  

Amcangyfrifir bod digwyddiad trawmatig wedi dod i ran mwy na 70 y cant o’r boblogaeth, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Yn hyn o beth, diffinnir digwyddiad trawmatig fel marwolaeth wirioneddol neu fygythiad o farwolaeth, anaf difrifol neu drais rhywiol.[2] [3] Mae trawma yn digwydd pan fo pobl mewn perygl gwirioneddol neu berygl ymddangosiadol. Mae profiadau o’r fath yn newid y ffordd y mae unigolion yn amgyffred eu hamgylchedd a’u cydberthnasau, gan beri iddynt ddisgwyl perygl, yn enwedig yn sgil sefyllfaoedd sy’n debyg o ran cyd-destun i’r trawma gwreiddiol. 

Yn ffisiolegol ac yn seicolegol, mae unigolion sydd wedi dioddef trawma wastad yn barod i ganfod bygythion. Yn aml, maent yn sensitif iawn i berygl (yn hynod wyliadwrus) ac maent yn ymateb yn gyflym (ar ffurf ymateb ymladd-ffoi-rhewi).

Gall y sefyllfa sy’n tanio’r ymateb straen (y sbardun) a’r effeithiau a ddaw wedyn (yr ymateb) amrywio o unigolyn i unigolyn. Mae cyd-destun y trawma yn siapio’r sbardunau. Mae’r unigolyn yn dysgu cysylltu agweddau ar gyd-destun y trawma gwreiddiol gyda pherygl, gan ymateb yn unol â hynny. Bydd yr ymateb straen hwn yn effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol yr unigolyn, gan effeithio ar y modd y bydd yn gweithredu o ddydd i ddydd. 

Pam y mae trawma yn fater polisi? 

Mae trawma yn ffactor risg pwysig ar gyfer iechyd meddwl gwael. Gall arwain yn uniongyrchol at Anhwylder Straen Ôl-drawmatig (PTSD) a gall gyfrannu at ddatblygu gorbryder ac iselder.[4] [5]

Mae trawma yn ystod plentyndod, ar ffurf ‘profiadau niweidiol yn ystod plentyndod’, yn arwain at risg uwch o lawer y bydd unigolion yn dioddef llesiant gwael, salwch meddwl a chanlyniadau negyddol eraill yn ystod eu hoes.[6] Er enghraifft, dengys gwaith dadansoddi fod 46% o unigolion ag iselder[7] a 57% o bobl ag iselder deubegynol wedi dioddef camymarfer yn ystod eu plentyndod.[8] Darganfu astudiaeth hollbwysig fod dioddef llawer o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (rhwng pedwar a chwech, o gymharu â dim o gwbl) yn arwain at gynnydd o 460% yn y siawns y bydd yr unigolion dan sylw yn dioddef iselder, cynnydd o 1,200% yn y siawns y byddant yn ceisio cyflawni hunanladdiad a chynnydd o 4,600% yn y siawns y byddant yn camddefnyddio cyffuriau mewnwythiennol.[9] 

Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gynnwys y canlynol: trais domestig; rhieni yn cefnu ar eu plant ar ôl iddynt wahanu neu ysgaru; trais (corfforol, rhywiol a/neu emosiynol); esgeulustod (corfforol ac emosiynol); aelod o’r aelwyd yn y carchar; cael eich magu ar aelwyd lle ceir oedolion sy’n dioddef problemau gydag alcohol a chyffuriau. Weithiau, mae rhiant sy’n cael problemau mawr gyda’i iechyd meddwl yn gallu cael effaith ddifrifol ar blant. Gweler trosolwg Public Health Scotland i gael rhagor o wybodaeth.  

Mae’n hawdd iawn i bobl sydd wedi goroesi trawma gael eu haildrawmateiddio (aildanio hen drawma) neu eu hailerlid (dioddef trawma newydd). Oherwydd hyn, mae pobl sydd wedi goroesi trawma yn boblogaeth agored i niwed.[10][11] Fodd bynnag, er bod trafod trawma fel profiad cyffredinol yn rhywbeth dilys i’w wneud, mae’n cuddio’r ffaith na chaiff trawma ei ddosbarthu’n gyfartal mewn cymdeithas.[12][13] Mae trawma yn effeithio’n anghymesur ar boblogaethau a gaiff eu hymyleiddio ac mae’n rhan annatod o systemau pŵer a gorthrwm.[14][15][16]

Mae’r modd y deellir trawma wedi datblygu’n fawr dros y blynyddoedd diwethaf. Erbyn hyn, rydym yn fwy ymwybodol o gyffredinrwydd trawma mewn cymdeithas ac mae gennym well gwybodaeth am yr effaith hirdymor a gaiff trawma ar y bobl sy’n ei oroesi. Yn sgil hyn, gellir cydnabod y rôl sydd gan sefydliadau o ran ‘tragwyddoli’ trawma, gan arwain yn anfwriadol at ragor o niwed i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed sy’n gweithio gyda nhw. Gelwir hyn yn ‘drawma systemig’ – cysyniad eang sy’n cynnwys strwythurau haniaethol fel cymdeithasau, diwylliannau a theuluoedd, ynghyd â sefydliadau mwy diriaethol fel ysbytai ac ysgolion.

Mae’r cysyniad sydd ynghlwm wrth drawma systemig wedi’i seilio ar ddeall trawma fel ymateb ymaddasol i amodau allanol. Mae’n symud y drafodaeth ynghylch trawma y tu hwnt i waliau’r clinig ac allan i’r gymdeithas ehangach. Os gall systemau o unrhyw fath esgor ar drawma a pheri i drawma barhau, trwy estyniad, mae gan y systemau hynny rôl – a chyfrifoldeb, yn ôl rhai – o ran ceisio atal a gwella trawma.[17]

Felly, nid darparu gwasanaethau trawma ar gyfer unigolion â PTSD yw’r unig elfen y dylid mynd i’r afael â hi wrth ymdrin â thrawma – dylid darparu arferion sy’n ystyriol o drawma ledled y sector cyhoeddus a’r gymdeithas ehangach.

Wrth inni ystyried ôl-effeithiau tymor hwy y pandemig, cydnabyddir yn fwyfwy bod angen dulliau sy’n ystyriol o drawma yn awr, yn fwy nag erioed o’r blaen, oherwydd mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod mwy a mwy o bobl yn dioddef straen ôl-drawmatig ar ôl mynd trwy bandemig.[18]

Darganfu ein hadroddiad ‘Engaging with Complexity’,[19] sy’n canolbwyntio’n benodol ar brofiadau menywod, fod gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag bod yn ystyriol o drawma. Mae’r rhwystrau hyn yn cynnwys gwrthod cydnabod pwysigrwydd trawma a gwrthod newid arferion sydd wedi hen ennill eu plwyf, yn ogystal â phrinder adnoddau a diffyg morâl. Ond daw’r adroddiad i’r casgliad y gall mabwysiadu egwyddorion arferion sy’n ystyriol o drawma esgor ar wasanaethau a all ymateb yn fwy effeithiol i anghenion menywod sydd wedi dioddef trawma. 

Beth yw arferion sy’n ystyriol o drawma? 

Gall arferion sy’n ystyriol o drawma ymateb i brofiadau unigolion trwy wrando ar hanesion pobl a mawrbrisio’r hanesion hynny trwy greu mannau diogel i siarad, trwy ddangos dealltwriaeth o’r trawma sydd wedi dod i ran pobl, a thrwy ymateb i anghenion y bobl dan sylw heb greu trawma newydd.

Yn benodol:

  • Mae arferion sy’n ystyriol o drawma yn rhoi’r lle blaenaf i bobl yn hytrach nag i brotocolau.
  • Nid yw arferion sy’n ystyriol o drawma yn ceisio gosod anghenion pobl mewn blychau penodol.
  • Mae arferion sy’n ystyriol o drawma yn creu diwylliant lle rhoddir pwys ar feddylgarwch a chyfathrebu, gan wneud eu gorau’n barhaus i ddysgu am anghenion amrywiol a newidiol yr unigolion dan sylw, ac addasu i’r anghenion hynny.

Er mwyn gwneud hyn, mae hi’n hanfodol i wasanaethau fod yn fodlon ac yn abl i ymhél â chymhlethdod. O ganlyniad, mae’n fwy defnyddiol inni ddiffinio arferion sy’n ystyriol o drawma mewn perthynas â phrosesau, dulliau a gwerthoedd parhaus, yn hytrach na gweithdrefnau penodedig.

Mae Gweinyddiaeth Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Dynol (SAMSHA), a leolir yn yr Unol Daleithiau, yn disgrifio dulliau sy’n ystyriol o drawma ar ffurf pedair elfen bwysig:

"a program, organization or system that is trauma-informed realizes the widespread impact of trauma and understands potential paths for recovery; recognizes the signs and symptoms of trauma in clients, families, staff, and others involved with the system and responds by fully integrating knowledge about trauma into policies, procedures, and practices, and seeks to actively resist re-traumatization".[20] 

Ein gweledigaeth ar gyfer arferion sy’n ystyriol o drawma

Yn ôl ein gweledigaeth, dylai dealltwriaeth o drawma ategu’r holl ryngweithio rhwng y sector cyhoeddus a phobl ledled y DU. Mae hyn yn golygu adnabod yr effaith eang a gaiff trawma, cydnabod trawma yn y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, a chreu mannau diogel lle gall staff gwasanaethau cyhoeddus drin pawb gyda sensitifrwydd, empathi a gwyleidd-dra diwylliannol. Ni ddylai’r wladwriaeth byth bythoedd wneud unrhyw beth sy’n debygol o achosi trawma. 

Argymhellion polisi ar gyfer gofal sy’n ystyriol o drawma – ledled y DU a Lloegr

Yn ychwanegol at bennu polisïau a deddfwriaethau ar gyfer Lloegr, mae Llywodraeth San Steffan yn meddu ar bŵer dros nifer o faterion sy’n berthnasol i’r DU i gyd, yn cynnwys addysg a pholisïau lloches.

  1. Dylai’r llywodraeth sefydlu rhaglen ‘gweithlu sy’n ystyriol o drawma’ ar gyfer Lloegr, sef rhaglen debyg i’r un a roddir ar waith yn yr Alban.[21]
  2. Rhaid i’r llywodraeth Lafur newydd gyflawni’r ymrwymiad a wnaed gan y llywodraeth flaenorol yn adroddiad interim ei Strategaeth Prif Gyflyrau (sy’n ymdrin â Lloegr) er mwyn datblygu adnodd ar gyfer asesu effeithiau iechyd meddwl a llesiant. Byddai’r adnodd hwn yn cynorthwyo llunwyr polisïau i ystyried yr effaith a gaiff eu polisïau ar iechyd meddwl a llesiant.
  3. Yn Lloegr, dylai’r Adran Addysg weithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol, ac elusennau addysg ac iechyd meddwl i lunio canllawiau ar gyfer athrawon ac ysgolion er mwyn gwella eu dealltwriaeth o ddulliau sy’n ystyriol o drawma a’u galluogi i gynorthwyo plant a phobl ifanc.
  4. Ledled y DU, dylai’r Swyddfa Gartref a’i hasiantaethau ddatblygu’n sefydliadau sy’n ystyriol o drawma, gan weithredu mewn modd a fydd yn deall y trawma a ddaw i ran nifer o geiswyr lloches. Dylid rhoi hyfforddiant o’r radd flaenaf yn ymwneud ag arferion sy’n ystyriol o drawma i’r staff a’r cynrychiolwyr perthnasol er mwyn sicrhau y gellir trin pobl gyda dealltwriaeth, tosturi ac urddas wrth iddynt fynd trwy’r system. Hefyd, dylai Llywodraeth y DU ymrwymo i gyflwyno hyfforddiant sy’n ystyriol o drawma, yn ymwneud yn benodol â phrofiadau ceiswyr lloches a ffoaduriaid, i holl staff y sector cyhoeddus (e.e. staff gofal iechyd, staff addysg, staff trafnidiaeth a staff yr heddlu) er mwyn osgoi’r perygl y bydd y bobl dan sylw yn cael eu haildrawmateiddio wrth ymhél â’r gwasanaethau cyhoeddus.
  5. Mewn partneriaeth â phobl a chanddynt brofiad bywyd o geisio lloches, dylai’r Swyddfa Gartref gynnal gwaith i ail-greu’r system loches er mwyn sicrhau na fydd y system honno’n aildrawmateiddio unigolion. Dylai’r gwaith hwn sicrhau na fydd yn rhaid i geiswyr lloches orfod ailesbonio’u hanesion wrth iddynt fynd trwy’r system, oherwydd gall hynny effeithio’n negyddol ar eu hiechyd meddwl.

Cyhoeddwyd: Hydref 2024. I’w adolygu: Ebrill 2025. 

Deunyddiau darllen pellach

Trauma

What is trauma, how might trauma affect you, the long-term effects of trauma, and getting support.

Trauma and adversity: Findings from the Mental Health Fellowships

This briefing on Trauma and Adversity brings together learning from six Fellows’ research that focuses on how community-based approaches are being used to effectively support people affected by trauma.

Providing effective trauma-informed care for women

This resource provides insights, guidance and advice for public sector service providers and commissioners who are looking to adopt gender-sensitive trauma-informed approaches in their own organisations.

[1] Y Weinyddiaeth Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau. SAMHSA’s Concept of Trauma and Guidance for a Trauma-Informed Approach. Rhif Cyhoeddiad HHS (SMA) 14-4884. Rockville, MD: Y Weinyddiaeth Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau, 2014.

[2] APA (2013) Diagnostic and statistical manual of mental disorders. 5ed argraffiad. Arlington: American Psychiatric Association.

[3] Benjet, C., Bromet, E., Karam, E.G., Kessler, R.C., McLaughlin, K.A., Ruscio, A.M., Shahly, V., Stein, D.J., Petukhova, M., Hill, E. ac Alonso, J. (2016) The epidemiology of traumatic event exposure worldwide: Results from the World Mental Health Survey Consortium. Psychological medicine, 46(2), tt. 327-343.

[4] Negele A, Kaufhold J, Kallenbach L, Leuzinger-Bohleber M. Childhood Trauma and Its Relation to Chronic Depression in Adulthood. Depress Res Treat. 2015;2015:650804. doi: 10.1155/2015/650804. Epub 2015 Nov 29. PMID: 26693349; PMCID: PMC4677006.

[5] Kinderman, P., Schwannauer, M., Pontin, E., a Tai, S. (2013). Psychological Processes Mediate the Impact of Familial Risk, Social Circumstances and Life Events on Mental Health. PLoS ONE, 8(10), e76564

[6] Lippard ETC, Nemeroff CB. The devastating clinical consequences of child abuse and neglect: Increased disease vulnerability and poor treatment response in mood disorders. American Journal of Psychiatry [Rhyngrwyd]. 20 Medi 2020 [dyfynnwyd 11 Gorffennaf 2022];177(1):20–36. Ar gael ar: https://ajp.psychiatryonline.org/doi/10.1176/appi.ajp.2019.19010020 

[7] Nelson J, Klumparendt A, Doebler P, Ehring T. Childhood maltreatment and characteristics of adult depression: meta-analysis. Br J Psychiatry [Rhyngrwyd]. 1 Chwefror 2017 [dyfynnwyd 11 Gorffennaf 2022];210(2):96-104. Ar gael ar: https://pubmed.ncbi.nlm.nih.gov/27908895/ 

[8] Post RM, Altshuler L, Leverich G, Nolen W, Kupka R, Grunze H, et al. More stressors prior to and during the course of bipolar illness in patients from the United States compared with the Netherlands and Germany. Psychiatry Res [Rhyngrwyd]. 30 Rhagfyr 2013 [dyfynnwyd 11 Gorffennaf 2022];210(3):880–6. Ar gael ar: https://pubmed.ncbi.nlm.nih.gov/24021999/ 

[9] Felitti VJ. The Relation Between Adverse Childhood Experiences and Adult Health: Turning Gold into Lead. The Permanente Journal [Rhyngrwyd]. 2002 [dyfynnwyd 11 Gorffennaf 2022;6(1):44. Ar gael ar:  www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC6220625/   

[10]  Fallot, R. D., a Harris, M. (2009) Creating cultures of trauma-informed care (CCTIC): A self-assessment and planning protocol.

[11] Goetlitz, A. a Stewart-Kahn, A. (2013) From trauma to healing: A social worker’s guide to working with survivors. Efrog Newydd: Routledge.

[12] McLaughlin, K.A., Koenen, K.C., Hill, E.D., Petukhova, M., Sampson, N.A., Zaslavsky, A.M. a Kessler, R.C. (2013) Trauma exposure and posttraumatic stress disorder in a national sample of adolescents. Journal of the American Academy of Child & Adolescent Psychiatry, 52(8), tt. 815-830.

[13] Magruder, K.M., McLaughlin, K.A. a Borbon, D.L.E. (2017) Trauma is a public health issue. European Journal of Psychotraumatology, 8(1).

[14] Burstow, B. (2003) Toward a radical understanding of trauma and trauma work. Violence against women, 9(11), tt. 1293-1317.

[15] Bowen, E.A. a Murshid, N.S. (2016) Trauma-informed social policy: A conceptual framework for policy analysis and advocacy. American journal of public health, 106(2), tt. 223-229.

[16] Becker-Blease, K. (2017) As the world becomes trauma-informed, work to do. Journal of trauma & dissociation: The official journal of the International Society for the Study of Dissociation (ISSD), 18(2), t.131.

[17] Elliott, D.E., Bjelajac, P., Fallot, R.D., Markoff, L.S. a Reed, B.G. (2005) Trauma-informed or trauma-denied: Principles and implementation of trauma-informed services for women. Journal of community psychology, 33(4), tt. 461-477.

[18] Sprang G. a Silman M. (2013) Posttraumatic Stress Disorder in Parents and Youth After Health-Related Disasters, cyhoeddwyd ar-lein gan Wasg Prifysgol Caergrawnt

[19] Wilton J, Williams A. Engaging with complexity: Providing effective trauma-informed care for women [Rhyngrwyd]. Ebrill 2019 [dyfynnwyd 11 Gorffennaf 2022]. Ar gael ar:  www.mentalhealth.org.uk/explore-mental-health/publications/engaging-wit…  

[20] Y Weinyddiaeth Gwasanaethau Iechyd a Chamddefnyddio Sylweddau. SAMHSA’s Concept of Trauma and Guidance for a Trauma-Informed Approach. Rhif Cyhoeddiad HHS (SMA) 14-4884. Rockville, MD: Y Weinyddiaeth Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau, 2014.

[21] Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma: www.nes.scot.nhs.uk/our-work/trauma-national-trauma-training-programme/