Sicrhau bod atal wrth galon a chraidd systemau cenedlaethol a lleol yn Lloegr: safbwynt ein polisi

Dysgwch ragor am yr angen am fesurau ataliol mewn systemau gofal integredig a’r modd y bydd hyn yn mynd i’r afael â salwch meddwl y cyhoedd.

Mae’r crynodeb byr hwn o’r polisi yn rhan o gyfres sy’n nodi’r prif newidiadau y mae angen eu rhoi ar waith i wella iechyd meddwl. Mae systemau iechyd lleol yn amrywio ledled y DU; mae’r papur hwn yn canolbwyntio ar Loegr. Mae’n defnyddio ymchwil a gwaith dadansoddi’r Sefydliad Iechyd Meddwl – gweler yr adran ‘deunyddiau darllen pellach’.  

Cynnwys:

Pam y mae angen i systemau iechyd ganolbwyntio ar atal 

Mae gennym system iechyd a gofal sy’n tueddu i ymyrryd yn hwyr a rheoli argyfyngau. Nid yw’r model cyfredol – sef disgwyl i bobl ddatblygu problemau iechyd meddwl a cheisio eu trin wedyn – yn ffordd effeithiol o wella iechyd meddwl y boblogaeth. Yn hytrach, rhaid inni sicrhau bod systemau cenedlaethol a lleol yn canolbwyntio ar atal.

Iechyd meddwl gwael yw’r elfen sy’n cyfrannu fwyaf at salwch meddwl ymhlith poblogaeth y DU. Mae lefelau iechyd meddwl gwael yn annerbyniol o uchel ac maent wedi bod yn codi ers 2000.[1] Mae costau economaidd a chymdeithasol ynghlwm wrth iechyd meddwl gwael – £117.9 biliwn y flwyddyn, sef oddeutu 5% o Gynnyrch Domestig Gros (GDP) y DU – ac mae’r mwyafrif o’r costau i’w cael oddi allan i’r sector gofal iechyd, yn fwyaf nodedig ar ffurf costau’n ymwneud â gofal anffurfiol a cholli cyflogaeth.[2]

Mae’r adfyd a’r anghydraddoldebau economaidd a chymdeithasol a welir yn ein cymunedau’n cael effaith uniongyrchol ar iechyd corfforol a meddyliol y boblogaeth. Yr unig ffordd y gellir mynd i’r afael â hyn yn effeithiol yw trwy roi dull mwy cydlynus a chydgysylltiedig ar waith lle bydd systemau cenedlaethol a lleol yn rhoi blaenoriaeth i’r ‘penderfynyddion iechyd meddwl’ cymdeithasol hyn, gyda dulliau cyffredin o fesur canlyniadau, anogaeth a chanllawiau clir, ac arferion da a gaiff eu rhannu.

Caiff yr anghydraddoldebau hyn eu gwasgaru ar draws sawl agwedd ar ein bywydau, yn cynnwys tlodi, incwm a diogelwch bwyd, tai, profiad o ddioddef camdriniaeth ac esgeulustod, cyflogaeth, addysg, a mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Yn aml, maent yn croestorri ag anghyfiawnderau megis hiliaeth, casineb at fenywod a homoffobia. Mae’r pethau hyn i gyd yn effeithio ar iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth. 

Dyfodol iechyd meddwl y cyhoedd 

Er bod angen cymryd camau ar frys, mae’r system iechyd cyhoeddus dan fwy o bwysau yn awr o gymharu ag unrhyw gyfnod arall mewn cof, gyda thoriad o 26% mewn cyllid ar gyfer y Grant Iechyd Cyhoeddus, fesul pen, ers 2015/16. [3]

Yn sgil Deddf Iechyd a Gofal 2022, rhoddwyd sail statudol i Systemau Gofal Integredig, a dywedodd y Llywodraeth ei bod yn ofynnol i gynrychiolwyr iechyd meddwl mewn Byrddau Gofal Integredig ganolbwyntio ar atal. Ond eithriad i’r rheol yw gwaith o’r fath.

Bydd dyfodol iechyd y cyhoedd yn dibynnu ar ddiffiniadau clir, blaenoriaethau cytunedig, strwythurau a systemau effeithiol, mwy o fuddsoddi, a gweithio cydweithredol a fydd yn ymestyn y tu hwnt i randdeiliaid traddodiadol. Trwy gyflawni hyn oll, bydd modd esgor ar adenillion mawr ar fuddsoddi a bydd modd arbed arian trwy wario llai ar wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol yn y dyfodol.

Tystiolaeth ar gyfer ymyriadau sy’n canolbwyntio ar atal 

Dengys y dystiolaeth yn glir fod y mannau a’r amgylchiadau lle mae pobl yn cael eu geni, yn tyfu, yn astudio, yn byw ac yn gweithio, yn cael dylanwad pwerus ar eu hiechyd meddwl. Mae tystiolaeth dda’n bodoli ynglŷn ag amrywiaeth o ymyriadau iechyd meddwl cyhoeddus, yn cynnwys rhaglenni magu plant, rhaglenni gwrthfwlio a chymorth priodol i fenywod yn y cyfnod amenedigol.[4]

Dylai’r ymyriadau cydnabyddedig hyn fod ar gael yn eang a dylid eu darparu ar raddfa fawr, oherwydd gallant leihau risgiau neu ddifrifoldeb problemau iechyd meddwl, ynghyd â gwella llesiant meddwl a chynorthwyo i esgor ar amrywiaeth eang o ganlyniadau’n ymwneud ag iechyd, cydberthnasau teuluol, addysg a chyflogaeth.[5]

Mae ein hadolygiad ni o’r dystiolaeth gyda’r LSE yn dangos y ceir mwy a mwy o astudiaethau sy’n ategu y gall ymyriadau cost-effeithiol atal problemau iechyd meddwl; cynhaliwyd nifer ohonynt yng nghyd-destun y DU a gwelir adenillion cadarnhaol ar fuddsoddi.[6]

Beth yw egwyddorion craidd gofal iechyd meddwl ataliol? 

Dylai gwaith cenedlaethol ar iechyd meddwl y cyhoedd ymgorffori’r nodweddion canlynol: 

  1. Dylai fod yn draws-sector, gan rannu’r cyfrifoldeb ar draws y llywodraeth, strwythurau a systemau. 
  2. Dylai fod yn systemig, gan roi blaenoriaeth i’r anghydraddoldebau sy’n arwain at broblemau iechyd meddwl. 
  3. Dylai fod yn gyfannol, a dylai gael ei ystyried fel elfen hollbwysig o lesiant ac iechyd corfforol. 
  4. Dylai gael ei lywio gan strwythur gwybodeg a data o’r radd flaenaf fel y gellir cyfarwyddo penderfyniadau ar bob lefel a thrawsnewid pethau ar lawr gwlad. 
  5. Dylai gael ei wneud mewn partneriaeth ag asiantaethau cyhoeddus, y sector preifat, y trydydd sector, pobl â phrofiad bywyd, a chymunedau. Yn arbennig, rhaid iddo roi sylw mawr i safbwyntiau pobl â phrofiad o broblemau iechyd meddwl a’r ffactorau risg a all arwain at broblemau o’r fath. 
  6. Dylai gael adnoddau ar ffurf cyllid tryloyw a phwrpasol, ynghyd â gweithlu sefydlog y cynlluniwyd ar ei gyfer. 

Yn achos y mwyafrif o’r costau sylweddol sy’n gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl, gwelir nad ydynt yn syrthio ar systemau gofal iechyd.[7] O’r herwydd, mae’n bosibl y byddai buddsoddi mewn atal cyflyrau iechyd meddwl yn rhywbeth cost-effeithiol iawn i’w wneud; yr her yn hyn o beth yw hwyluso rhagor o fuddsoddi mewn atal ledled y DU, oddi mewn ac oddi allan i systemau gofal iechyd ac iechyd y cyhoedd. 

Argymhellion polisi ar gyfer atal salwch meddwl y cyhoedd (Lloegr): 

Ariannol 

  1. Rhaid i’r llywodraeth genedlaethol ac awdurdodau lleol fuddsoddi mwy mewn ymyriadau cydnabyddedig sydd o fudd i iechyd y cyhoedd ac sy’n atal problemau iechyd meddwl. Hefyd, dylai’r llywodraeth fuddsoddi mewn datblygu sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyriadau addawol, fel y gellir eu cyflwyno’n eang os dangosir eu bod yn effeithiol. 
  2. Dylid buddsoddi mwy o arian yn gyson yn iechyd y cyhoedd, ar yr un raddfa â’r cynnydd yng nghyllideb y GIG, gan glustnodi cyfran ar gyfer iechyd meddwl y cyhoedd. Fan leiaf, rhaid i’r llywodraeth wrthdroi’r toriad o bron i biliwn o bunnoedd (mewn termau real) a welwyd yn y grant iechyd cyhoeddus ers 2015[8]. 
  3. Dylid cael ffrwd gyllid bwrpasol a hirdymor, a ategir gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau, a’r Trysorlys er mwyn galluogi partneriaethau gofal integredig i adeiladu ar yr elfennau mwyaf effeithiol sy’n perthyn i raglen y Gronfa Iechyd Meddwl Gwell  yn y cymunedau mwyaf amddifad, fel y nodir yn y gwerthusiad.[9] 
  4. Dylai’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol bennu bod yn rhaid i’r GIG fynd ati i fuddsoddi canran benodol o’i gyllideb mewn gwaith cydnabyddedig yn ymwneud ag atal ac ymyrraeth gynnar mewn cymunedau. 
  5. Dylid llunio adroddiadau cenedlaethol yn nodi lefel y cyllid a ddyrennir i iechyd y cyhoedd ac atal oddi mewn ac oddi allan i’r GIG a llywodraeth leol, a hefyd dylid nodi sut y caiff yr arian ei wario. 

Newid y system 

  1. Dylai llywodraeth y DU ymrwymo i ddatblygu strategaeth genedlaethol yn ymwneud ag iechyd meddwl a llesiant lle rhoddir dull trawsadrannol ar waith gan ymgorffori camau gweithredu y tu hwnt i systemau iechyd ac iechyd y cyhoedd. Rhaid i’r strategaeth hon ganolbwyntio ar atal problemau iechyd meddwl ac ategu iechyd meddwl da, gan gydnabod y manteision a ddaw i ran canlyniadau bywyd eraill yn sgil gwella gwaith ataliol mewn iechyd meddwl. 
  2. Dylai Systemau Gofal Integredig fod yn atebol i’r llywodraeth ganolog mewn perthynas â chanlyniadau; fan leiaf, dylid rhannu targedau rhwng iechyd, gofal cymdeithasol i oedolion a phlant, ac iechyd y cyhoedd. Wrth i systemau lleol ehangach ddioddef effeithiau iechyd meddwl gwael, dylai Partneriaethau Gofal Integredig gydnabod buddiannau’r heddlu a’r systemau cyfiawnder troseddol, er enghraifft, mewn atal salwch meddwl. Dylai’r targedau fynd i’r afael â ‘beth’ yn hytrach na ‘sut’; hynny yw, dylent ymwneud yn uniongyrchol â’r canlyniadau y dylai systemau lleol geisio’u cyflawni. Rhaid cael targedau canolog os ydym am wthio systemau i roi’r dull angenrheidiol ar waith mewn perthynas ag iechyd meddwl y cyhoedd – hynny yw, y dull sy’n angenrheidiol i sicrhau cynaliadwyedd y GIG yn yr hirdymor. 
  3. Rhaid i’r Llywodraeth sicrhau bod Systemau Gofal Integredig yn defnyddio’u pwerau o ran ymgynnull a chydgysylltu partneriaid lleol i ategu’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno ymyriadau iechyd meddwl y cyhoedd sy’n seiliedig ar dystiolaeth.[10] Hefyd, rhaid i Systemau Gofal Integredig ddefnyddio’u statws fel ‘sefydliadau angor’ lleol i gymryd camau a fydd yn gwella iechyd meddwl eu poblogaeth, yn cynnwys rhoi’r Cyflog Byw Gwirioneddol ar waith i’w holl weithwyr a chynorthwyo’u cymunedau trwy benderfyniadau prynu.[11] 
  4. Dylai pob System Gofal Integredig lofnodi’r Concordat Atal ar gyfer Gwell Iechyd Meddwl.[12] 
  5. Rhaid i lywodraethau datganoledig y DU fuddsoddi mewn ymchwil lle ystyrir y costau a’r manteision hirdymor sy’n gysylltiedig ag atal, yn hytrach na’r effeithiau byrdymor yn unig, gan ymwreiddio ystyriaethau’n ymwneud â chenedlaethau’r dyfodol mewn polisïau cyhoeddus. 
  6. Mae nifer o Systemau Gofal Integredig yn cael anhawster i ariannu ymyriadau iechyd meddwl y cyhoedd, hyd yn oed rhai â sylfaen dystiolaeth dda. O ystyried y diffyg arian o du’r llywodraeth ganolog, mae Systemau Gofal Integredig mewn sefyllfa ddyrys o ran ceisio mynd ati’n greadigol i feddwl sut y gallant ariannu dulliau ataliol. Bydd y dulliau hyn yn amrywio o ardal i ardal, ond dylai arweinwyr Systemau Gofal Integredig sicrhau eu bod yn dysgu gan eu cymheiriaid. 
  7. Y tu hwnt i ymyriadau y gellir eu hatgynhyrchu, sydd â sylfaen dystiolaeth dda ar hyn o bryd, dylai penderfynwyr lleol wrando ar anghenion penodol eu cymunedau fel y gellir datblygu cymorth o’r gwaelod o fyny. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen cyfuno gwybodaeth arbenigol am elfennau sydd wedi bod yn effeithiol mewn cyd-destunau eraill gyda gwybodaeth cymunedau am eu hanghenion nhw. 

Cyhoeddwyd: Hydref 2024 / I’w adolygu: Ebrill 2025.

Deunyddiau darllen pellach

Prevention and mental health

What does prevention mean, how can you take preventative measures to help yourself, and what changes can society make to prevent mental health problems?
Read more

The economic case for investing in the prevention of mental health conditions in the UK

We want the prevention of poor mental health to be at the centre of the UK’s approach to mental health.
Read more

Reform of Public Health England: what next for public mental health?

Here we take you through the Foundation's thoughts on what the reform of Public Health England means for the future of public mental health.

Prevention and mental health report

Understanding the evidence so that we can address the greatest health challenge of our times.

Embedding a Public Mental Health Approach In the Re-organised NHS

Oliver Chantler, Head of Policy and Public Affairs at the Mental Health Foundation, and Dr Sarah Markham, Patient Representative on the PMHIC Advisory Board, offer their insights and reflections.

[1] A New Social Contract for a mentally healthier society (2020), Y Sefydliad Iechyd Meddwl - www.mentalhealth.org.uk/about-us/news/new-social-contract-letter-prime-…

[2] The Economic Case for Investing in the Prevention of Mental Health Conditions in the UK: www.mentalhealth.org.uk/sites/default/files/2022-06/MHF-Investing-in-Prevention-Full-Report.pdf

[3] Y Sefydliad Iechyd - Public health grant - What it is and why greater investment is needed (17 Mawrth, 2023) - www.health.org.uk/news-and-comment/charts-and-infographics/public-health-grant-what-it-is-and-why-greater-investment-is-needed.

[4] The Economic Case for Investing in the Prevention of Mental Health Conditions in the UK: www.mentalhealth.org.uk/sites/default/files/2022-06/MHF-Investing-in-Prevention-Full-Report.pdf

[5] Campion J, Public mental health: Evidence, practice and commissioning (2019), Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd www.rsph.org.uk/our-work/policy/wellbeing/public-mental-health-evidence-practice-and-commissioning.html

[6] Gweler dadansoddiad Cronfa’r Brenin yma: www.kingsfund.org.uk/projects/positions/public-health

[7] The Economic Case for Investing in the Prevention of Mental Health Conditions in the UK:  www.mentalhealth.org.uk/sites/default/files/2022-06/MHF-Investing-in-Prevention-Full-Report.pdf

[8] Y Sefydliad Iechyd - Public health grant - What it is and why greater investment is needed (17 Mawrth, 2023) - www.health.org.uk/news-and-comment/charts-and-infographics/public-health-grant-what-it-is-and-why-greater-investment-is-needed.

[9] Cynhelir y gwerthusiad gan y Ganolfan Iechyd Meddwl. I gael rhagor o wybodaeth, gweler yma: www.centreformentalhealth.org.uk/evaluation-ohids-better-mental-health-fund

[10] I weld enghreifftiau, gweler ein hadroddiad diweddar gyda’r LSE: The economic case for investing in the prevention of mental health problems in the UK. www.mentalhealth.org.uk/sites/default/files/2022-06/MHF-Investing-in-Prevention-Full-Report.pdf 

[11] Mae’r GIG yn gyfrifol am lu o benderfyniadau prynu, gyda llawer o’r penderfyniadau hynny’n ymwneud â phethau nad ydynt yn offer meddygol ac y gellid eu defnyddio i gynorthwyo busnesau lleol a sefydliadau eraill. Hefyd, gellir defnyddio caffael gwerth cymdeithasol i helpu grwpiau o bobl sy’n wynebu risg fawr. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ‘Better Together: a public health model for mentally healthier integrated care systems’ gan y Ganolfan Iechyd Meddwl: www.centreformentalhealth.org.uk/publications/briefing-57-better-together/

[12] Papur polisi gan y Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau (diweddarwyd 16 Mehefin, 2022), Concordat Atal ar gyfer Gwell Iechyd Meddwl. Ar gael ar: www.gov.uk/government/publications/prevention-concordat-for-better-mental-health-consensus-statement/prevention-concordat-for-better-mental-health