Brîff Polisi Iechyd Meddwl a Natur i Gymru

Mae’r brîff polisi hwn yn adeiladu ar y dystiolaeth a nodir yn ein hadroddiad ymchwil i gynnig rhai meysydd polisi â blaenoriaeth ar gyfer Cymru. Byddwn yn dechrau trwy gyflwyno’r cyd-destun presennol ar gyfer y berthynas rhwng natur ac iechyd meddwl, a throsolwg o’r materion allweddol, cyn bwrw ati i drafod ein hargymhellion polisi manwl. 

Cyflwyniad a Throsolwg

Fel bodau dynol, mae’r amgylchedd yr ydym yn tyfu i fyny ynddo ac yn byw ynddo’n cael dylanwad mawr arnom ni. Mae ein hamgylchiadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol oll yn effeithio ar ein datblygiad emosiynol a’n lles, yn yr un modd ag y mae ein cysylltiad gyda natur.

Mae lles natur yn gynhenid i’n profiad ein hunain o iechyd a lles. 

Mae gan yr amgylchedd naturiol botensial i fod yn hynod fanteisiol i’n hiechyd a’n lles, ond eto, bron ym mhobman y byddwn yn edrych, mae rôl a gwelededd natur yn dirywio. Mae llygredd golau’n amharu ar awyr y nos, mae ardaloedd gwyllt bioamrywiol wedi cael eu disodli gan ungnydau amaethyddol, ac yn ein bywydau pob dydd, mae technoleg a defnydd o sgriniau yn cynyddu tra bod treulio amser ystyrlon  ym myd natur yn lleihau.

 

Graphic of some paper and the words 'Our policy asks. Wales'

Yn ogystal â goblygiadau ecolegol amlwg y tueddiadau hyn, mae dirywiad ein byd naturiol a’n cysylltiad gydag ef yn arwain at ganlyniadau 
andwyol i’n lles meddyliol. Mae ein hadroddiad ymchwil2 ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni’n trafod y dystiolaeth sy’n arddangos y cysylltiad rhwng natur ac iechyd meddwl, ac yn dangos y gall ymgysylltiad gwell gyda natur fod o fudd i’n hiechyd meddwl. 

Rydym hefyd wedi comisiynu pleidlais YouGov yng Nghymru3 i archwilio perthnasoedd pobl gyda natur a sut mae’n ymwneud â’u hiechyd meddwl.