Adroddiad y DU ar Unigrwydd ac Iechyd Meddwl

Gwyddom sut deimlad yw unigrwydd ac mae teimlo'n unig o bryd i'w gilydd yn rhan o fywyd. Ond pan mae unigrwydd yn ddifrifol neu'n para am gyfnod hir, gall effeithio’n negyddol ar ein hiechyd meddwl.

Mae'r adroddiad hwn yn archwilio sut beth yw bod yn unig: ei achosion, ei ganlyniadau a'r grwpiau o bobl sy'n fwy tebygol o gael profiadau difrifol a pharhaus o unigrwydd.

Rydym yn edrych ar y cysylltiadau cryf rhwng unigrwydd ac iechyd meddwl ac yn rhannu straeon naw o bobl sy’n teimlo’n unig yn aml neu o hyd. Rydym yn ystyried amgylchiadau, sefyllfaoedd a digwyddiadau bywyd a all gynyddu ein risg o unigrwydd. Rydym hefyd yn nodi canfyddiadau ynghylch dealltwriaeth y cyhoedd am unigrwydd ac ar bwy mae'n effeithio. Rydym yn egluro rhai o’r ffyrdd mae pobl yn ymdopi gydag unigrwydd o ddydd i ddydd ac rydym yn egluro pam ein bod ni angen mynd i'r afael â'r agweddau ymarferol, strwythurol a seicolegol sy'n rhwystro cysylltiad os ydym am leihau baich unigrwydd ac atal ei effeithiau ar iechyd meddwl.

Credwn y canlynol:

Er y gall unrhyw un deimlo'n unig, mae ffactorau risg penodol yn cynyddu ein posibilrwydd o brofi unigrwydd difrifol a pharhaus a all effeithio ar ein hiechyd meddwl.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Colli eich gŵr neu wraig
  • Bod yn sengl
  • Bod yn ddi-waith
  • Byw ar eich pen eich hun
  • Dioddef o gyflwr iechyd neu anabledd hirdymor
  • Byw mewn llety rhent
  • Bod rhwng 16 a 24 oed
  • Bod yn ofalwr
  • Bod yn perthyn i gymuned lleiafrifoedd ethnig
  • Bod yn perthyn i LGBTQ+
Graphic of a book with the title 'loneliness research'

Gall y stigma sydd ynghlwm ag unigrwydd ei gwneud hi’n anodd i bobl siarad amdano. Mae pobl yn ofni cael eu beirniadu neu deimlo'n faich.

Gall unigrwydd hirdymor effeithio ar ein hiechyd meddwl a chorfforol – sy'n cael goblygiadau nid yn unig ar yr unigolyn ond ar y gymdeithas ehangach hefyd. Gall bod yn unig am amser hir arwain at hwyliau negyddol: mae unigrwydd yn ei gwneud hi'n fwy anodd cysylltu, sy'n arwain at bobl yn ofni sefyllfaoedd cymdeithasol, ac mae hynny'n golygu ei bod hi'n anodd dod o hyd i lawenydd mewn bywyd a dianc rhag meddyliau negyddol.

Pam mae unigrwydd yn achos pwysig

Er bod unigrwydd ac unigedd cymdeithasol yn gysylltiedig, nid ydynt yr un fath. Mae unigedd cymdeithasol yn cyfeirio at ddiffyg gwrthrychol mewn cysylltiadau cymdeithasol, sy’n gallu cael eu mesur yn ôl y nifer o berthnasoedd sydd gan unigolyn. Nid yw unigolyn sydd mewn unigedd cymdeithasol o reidrwydd yn unigolyn unig, ac nid yw unigolyn unig o reidrwydd mewn unigedd cymdeithasol. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar unigrwydd yn hytrach nag unigedd cymdeithasol.

Stori Michael - Mae deall eich hun yn gymorth i ymdopi gyda chyfnodau unig

Mae Michael yn 58 oed a daw o dde-ddwyrain Lloegr. Mae'n byw ar ei ben ei hun yng nghartref y teulu sydd ar werth. Mae Michael wedi bod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl hirdymor a phrin y gadawodd y tŷ rhwng 1989 a 2016 pan aeth ei fam, a oedd yn gefn iddo, yn wael ei hiechyd. Bu farw ym mis Mai 2020 ac mae Michael yn hynod unig hebddi.

Mae unigrwydd fel bod ar ynys ddiffaith. Rydych chi'n teimlo eich bod ar eich pen eich hun yn llwyr. Fel arfer, pan ydych chi'n mynd drwy rywbeth, mae gennych chi ffrindiau, mae gennych chi deulu, felly rydych chi'n mynd drwy bethau gan eich bod mewn cyswllt gyda nhw â nhw. Mae'n teimlo fel petawn ar ynys ddiffaith, a phopeth ar fy ysgwyddau i. Yn mynd drwy beth bynnag ydych chi'n mynd drwyddo, rydych chi ar eich pen eich hun yn llwyr.

Stori Rachel - Pobi, astudio a gwirfoddoli er mwyn cadw unigrwydd ymaith

Mae Rachel yn 29 oed ac yn byw mewn tref fechan yng Nghymru. Mae'n rhiant sengl i ddau o blant, sy'n saith a 12 oed. Nid yw hi’n gallu gweithio ar hyn o bryd oherwydd ei chyflwr iechyd meddwl a chorfforol. Mae'n ei chael hi'n anodd gydag unigrwydd gan ei bod yn treulio llawer o amser ar ei phen ei hun.

Yn amlwg mae fy mhlant yn yr ysgol, felly rwyf yn y tŷ ar fy mhen fy hun yn ystod y dydd. Gall fod yn brofiad eithaf unig gan nad oes gennyf lawer o ffrindiau a'r unig sgwrs a gaf gydag oedolion yw sgyrsiau gyda fy rhieni.

Nid yw'r teimladau byr o unigrwydd y mae'r rhan fwyaf ohonom wedi'u profi yn debygol o wneud niwed i'n hiechyd meddwl. Serch hynny, mae unigrwydd difrifol ac iechyd meddwl gwael yn gysylltiedig a gallant wneud ei gilydd yn waeth, er y gall fod yn anodd sefydlu pa un a ddaeth gyntaf.

Pam mae unigrwydd yn achos pwysig?

Yn ogystal â pheri trallod mawr i unigolion, mae unigrwydd yn cael goblygiadau ehangach ar ein cymunedau a'n cymdeithas. Yn ôl tystiolaeth, mae unigrwydd yn arwain at fwy o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus drwy fwy o ymweliadau â'r Meddyg Teulu er enghraifft, arosiadau hirach yn yr ysbyty, tebygolrwydd uwch o fynd i ofal preswyl a'r costau sydd ynghlwm â chyflyrau megis iselder a diabetes, er enghraifft.

Stori Mehnaz - Grym perthnasoedd go iawn gyda phobl anfeirniadol

Mae Mehnaz yn 26 oed ac yn byw gyda'i rhieni yn Birmingham. Mae'n fyfyrwraig ac yn agosáu at ddiwedd ei gradd. Cafodd ei hastudiaethau eu hamharu gan salwch, ac yn sgil hynny mae wedi cymryd naw mlynedd iddi gwblhau ei gradd tair blynedd. Saith mlynedd yn ôl, cafodd ddiagnosis o Sglerosis Ymledol. Mae ei symptomau yn cynnwys blino'n sydyn wrth gerdded a phroblemau gyda chof a chanolbwyntio. Mae ei diagnosis yn rhan fawr o'i hunigrwydd.

Arweiniodd hynny ataf yn ynysu fy hun rhag pawb, yn llythrennol, pawb yn fy mywyd.

Cawsom ein gorfodi gan bandemig COVID-19 i wynebu unigrwydd mewn ffordd newydd. Roedd cyfyngiadau pellter cymdeithasol a chyfnodau clo yn golygu bod nifer o bobl yn wynebu unigedd cymdeithasol ac unigrwydd. Ar ddechrau'r pandemig, roedd lefelau unigrwydd yr un fath ag yr oeddynt yn 2016-17, gyda 5% o oedolion ym Mhrydain Fawr yn dweud eu bod nhw'n teimlo'n unig yn aml neu drwy'r amser. 3.4 Erbyn mis Chwefror 2021, roedd hyn wedi cynyddu i 7.2% - 3.7 miliwn o oedolion.

Canfuwyd yn ein hastudiaeth COVID-19 bod teimladau o unigrwydd wedi cynyddu yn gyflym yn ystod y cyfnod clo cyntaf.

Stori Karen - Cadw'n brysur o ddydd i ddydd i gadw unigrwydd ymaith

Mae Karen yn 55 oed. Gwnaethpwyd hi yn weddw yn ddiweddar ac mae'n byw ar ei phen ei hun tra'r oedd ei mab yn y brifysgol. Dwy flynedd yn ôl cafodd ddiagnosis o Sglerosis Ymledol / Syndrom Blinder Cronig.

Cyn i mi gael diagnosis o Sglerosis Ymledol, roeddwn yn actif iawn. Roeddwn yn gweithio’n llawn amser. Roeddwn yn gwarchod fy ngŵr anabl. Roeddwn yn magu fy mab. Byddwn wedi gwneud cryn dipyn o farchogaeth. Byddwn wedi gwneud cryn dipyn o gerdded, a llawer o gerdded mynyddoedd. A byddwn wedi bod o'r tŷ o fore gwyn tan nos ar y Sul. Bore Sadwrn, marchogaeth, danfon fy mab i'w ymarfer pêl-droed. Roedd yn gyfrifoldeb dwys saith diwrnod yr wythnos.

  • Gall unrhyw un fod yn unig, ond mae rhai ffactorau yn cynyddu'r risg o unigrwydd difrifol neu barhaus a all effeithio ar ein hiechyd meddwl.
  • Ymhlith ffactorau risg ar gyfer unigrwydd mae colli eich gŵr neu wraig, bod yn sengl, byw ar eich pen eich hun, bod yn ddi-waith a dioddef o gyflwr iechyd hirdymor.
  • Gall deall mwy am y ffactorau risg hyn fod yn gymorth i ni fynd i'r afael ag unigrwydd yn effeithiol a'i weld fel problem a all effeithio ar unrhyw un.
  • Mae’r pandemig wedi amlygu’r anghydraddoldebau ymysg grwpiau a oedd eisoes mewn perygl uwch o unigrwydd

 

Stori Dan - Mae mynd i'r gampfa yn cynnal eich cymhelliant a'ch cysylltiad ag eraill

Mae Dan yn 21 oed ac ar ei ail flwyddyn yn y brifysgol yn yr Alban. Mae'n byw mewn fflat y mae'n ei rannu gyda thri arall. Mae'n teimlo'n unig yn aml ers iddo symud oddi cartref. Cafodd Dan ddiagnosis o ADHD pan oedd yn 17 oed. Dywed fod hyn wedi gwneud pethau'n anodd iddo fagu cysylltiadau go iawn.

Mae fel teimlo’n ddigyswllt â’r byd o’n cwmpas. Ddim yn fodlon yn fy nghroen fy hun bron iawn ac yn teimlo'n unig yn gyffredinol.

Yn yr adroddiad hwn, ceir straeon gan naw unigolyn. Dônt o ystod o gefndiroedd, maen nhw'n byw yng ngwahanol lefydd ledled y DU ac yn wynebu heriau gwahanol, ond mae'r cwbl yn teimlo'n unig yn aml neu drwy'r amser. Mae eu straeon personol yn dangos faint sy'n cael ei gwmpasu gan y gair 'unigrwydd', y ffactorau cymhleth sy'n arwain at unigrwydd a'r ffordd mae'n effeithio ar ein hiechyd meddwl.

Stori Lakshmi

Mae geiriau o anogaeth gan rywun sydd ag amser i wrando a siarad yn gwneud byd o ddaioni. Nid ydynt yn trafod iechyd meddwl yn fy nghymuned. Ac oherwydd hynny, rydych chi'n teimlo hyd yn oed yn fwy unig pan ydych chi'n mynd drwy gyfnod anodd.

I ddeall yn well yr hyn mae'r cyhoedd yn ei feddwl ynghylch unigrwydd, gwnaethom holiadur gyda grŵp sy'n cynrychioli'r genedl yn cynnwys 6,000 o oedolion ym mis Chwefror a mis Mawrth 2022. Gwnaethom ofyn am eu profiadau a'u canfyddiadau mewn perthynas ag unigrwydd.

  • Mae'r cyhoedd yn deall y cyswllt rhwng unigrwydd ac iechyd meddwl.
  • Mae stigma sylweddol yn parhau i fod ynghylch unigrwydd ac iechyd meddwl.
  • Er bod y cyhoedd yn deall bod digwyddiadau bywyd, amgylchiadau a'n cymuned ehangach yn gallu eu rhoi mewn risg o unigrwydd, maent yn dueddol o anghofio am y grwpiau o bobl a all fod yn 'unig yng nghwmni pobl'.
  • Gall ystrydebau ynghylch pwy sy'n teimlo'n unig ei gwneud hi'n fwy anodd i bobl gydnabod eu hunigrwydd eu hunain ac yn peryglu gadael bylchau yn ymateb y gymdeithas iddo.

Stori Kelvin - Gall dod o hyd i ymdeimlad o bwrpas a hunaniaeth ddatgloi unigrwydd

Mae Kelvin yn 51 oed ac yn byw yn Llundain Fwyaf. Mae wedi ysgaru, yn byw ar ei ben ei hun ac wedi bod yn anghyflogedig gan fod cyfnod o salwch wedi arwain ato yn colli ei swydd mewn TG tair blynedd yn ôl. Mae Kelvin yn chwilio am waith a theimla fod hyn yn ffactor allweddol o'i unigrwydd.

Pan ydych yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith, rwy'n credu bod hynny yn ei ffordd ei hun yn fath o unigrwydd. Teimlo nad oes neb eich eisiau, eich bod yn cael eich gwrthod. "Mae nifer o'm problemau yn ymwneud â'r ffaith nad wyf mewn gwaith (...) Yn enwedig yn achos dynion. Rydym yn diffinio ein hunain gan ein gallu i gynhyrchu (incwm.)

Roeddem hefyd eisiau archwilio pa un ai a oedd y cyhoedd yn deall beth allai arwain at bobl yn mynd yn ddifrifol o unig am gyfnod hir, a pha un ai a oes ganddynt ystrydebau ynghylch unigrwydd. Gwelsom fod pobl yn deall rhai o'r ffactorau sy'n dueddol o gynyddu risg pobl o unigrwydd.

Stori Donna - Mae'n llesol dod o hyd i ffordd i ryddhau'ch teimladau

Mae Donna yn 48 oed ac yn byw mewn tref fechan yn ne-ddwyrain Lloegr. Mae'n gofalu am ei merch 17 oed sydd ag awtistiaeth, ac am ei phartner sy'n dioddef o boen a phroblemau symudedd hirdymor ar ôl cael triniaeth o safon isel i'w anaf pen-glin. Gweithia'n rhan amser ac mae'n gyfrifol am ei theulu a dau gi bywiog. Er mai prin y mae Donna ar ei phen ei hun, teimla'n unig gan nad oes ganddi rywun i rannu ei phroblemau gydag ef.

Nid yw fy mhartner yn gallu ymgymryd â gwaith rheolaidd, felly byddaf yn mynd o'r tŷ bob dydd ac yn ennill fy mara menyn. Rwy’n teimlo fy mod yn cario problem ar fy ysgwyddau. Rwy'n byw dan amgylchiadau heriol ac yn ymdopi â phroblemau iechyd nad oes neb arall yn eu deall. Mae hynny ynddo'i hun yn gwneud i chi deimlo'n eithaf unig gan nad yw'n rhwydd dod o hyd i rywun sy'n deall eich profiadau ac y gallwch siarad gydag ef.

Dengys ein canfyddiadau faint o ystrydebau ynghylch unigrwydd sy'n dal i fodoli, er gwaethaf dealltwriaeth pobl am yr achosion cynnil o unigrwydd. Yn enwedig, mae pobl yn tybio fod unigrwydd yn ymwneud ag oed a chael eich ynysu’n gorfforol. Gall yr ystrydebau hyn arwain at bobl yn anghofio'r rheini sy'n 'unig yng nghanol pobl' – gan gynnwys myfyrwyr, gofalwyr a phobl yn ardaloedd trefol.

Stori Sara - Mae gwerth mewn rhoi eich hunan allan yna

Mae Sara wedi'i chael hi'n anodd gyda'i hiechyd meddwl gydol ei bywyd. Mae ganddi ADHD ac yn ddeurywiol, ac yn ei barn hi mae'n credu bod hynny'n creu rhwystrau ychwanegol rhag cysylltu â phobl.

Does dim llawer o bobl yr un oed â fi yr wyf yn rhyngweithio â nhw. Rwyf hefyd wedi dioddef problemau iechyd meddwl ac nid oeddwn yn gallu eu trafod gyda phobl. Nid wyf wedi gallu dod o hyd i bobl i rannu'r profiad hwnnw a'i drafod gyda nhw, mae'n brofiad unig ar adegau.

Rydym yn galw ar sawl ofyniad i bolisïau ar draws y DU i fynd i'r afael ag unigrwydd ar draws cymdeithas.

  • Ymgymryd ag agwedd strategol at unigrwydd
  • Datblygu'r adnoddau sydd eu hangen yn y gymuned i oresgyn unigrwydd
  • Datblygu amgylchedd byw mwy gwyrdd sy'n cefnogi cyswllt cymdeithasol
  • Cefnogi plant a phobl ifanc gydag ymyraethau mewn lleoliadau addysg
  • Sicrhau bod gan bawb fynediad at dechnoleg cyfathrebu ddigidol, a'r sgiliau i'w defnyddio, a pharchu dewis rhywun i ddefnyddio ffurfiau cyfathrebu nad ydynt yn ddigidol

Gweld rhagor am argymhellion y polisi

Cymorth a chyngor ar sut i ymdopi ag unigrwydd a gwella'ch iechyd meddwl

Gall ymdrin ag unigrwydd fod yn brofiad anodd. Wedi dweud hynny, mae pethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i ymdopi ag unigrwydd ac i atal rhai teimladau negyddol a phroblemau iechyd meddwl a all ddod law yn llaw ag o.

Edrychwch ar rai o’r strategaethau ymdopi a fydd o fudd ichi efallai