Dull Partner Dysgu

Ydych chi'n ceisio darganfod sut rydych chi'n effeithio ar lesiant emosiynol eich buddiolwyr pan nad oes gennych chi gefndir mewn iechyd meddwl? 

Ydych chi'n meddwl sut i gefnogi eich staff gyda’u llesiant eu hunain mewn ffordd gydweithredol a chyd-gynhyrchiol? 

Efallai eich bod yn weithiwr ieuenctid, yn athro neu'n gweithio i'r heddlu. Efallai eich bod yn hyfforddwr chwaraeon neu'n weithiwr cyngor lleol.  

Yma yn y Sefydliad Iechyd Meddwl, rydym yn gweithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o wahanol sefydliadau. Rydyn ni’n ‘ffrind beirniadol’, wrth i ni wrando ar sefydliadau er mwyn cefnogi eu dysgu ynghylch lles a thynnu sylw at yr effaith maen nhw’n ei chael ar staff neu gymuned. 

Astudiaeth achos enghreifftiol: 

Cysylltodd Gwasanaeth Ieuenctid o Gymru â ni ac roeddent eisiau gwybod beth oedd yn wahanol am y cymorth iechyd meddwl yr oeddent yn ei roi i bobl ifanc o gymharu ag addysg, iechyd a gofal cymdeithasol. Roeddent hefyd am ddarganfod sut i fod yn well am werthuso'r effaith yr oedd eu gwaith yn ei chael ar iechyd meddwl y bobl ifanc yr oeddent yn gweithio gyda nhw. 

Dros gyfnod o 12 mis, fe wnaethom eu helpu i ddod o hyd i ‘bwyntiau gwerthu unigryw’ o ran eu hiechyd meddwl a dod o hyd i ffyrdd gwell o ddal y gwahaniaeth roeddent yn amlwg yn ei wneud. Roedd hyn yn ei dro wedi eu helpu i ddiffinio eu hunain a chreu cyfleoedd ariannu newydd. 

Rydym ochr yn ochr â chi fel Partner Dysgu, heb gymryd yn ganiataol ein bod yn gwybod y cyfan, ond yn archwilio, gyda chi, y gwaith y mae eich sefydliad yn ei wneud eisoes mewn perthynas ag atal iechyd meddwl gwael a hybu iechyd meddwl da. 

Dyma rai o’r cwestiynau rydyn ni’n gofyn i sefydliadau feddwl amdanyn nhw:  

‘Sut mae neu sut all ein gwaith effeithio ar iechyd meddwl yn y gymuned?’ 

‘Sut ydyn ni’n mesur pa effaith rydyn ni’n ei chael ar iechyd meddwl?’ 

‘Ydyn ni’n deall beth yw anghenion ein gweithwyr o ran eu llesiant eu hunain? 

Mae'r canlyniadau a gasglwn yn helpu ein partneriaid i feddwl am y newidiadau cadarnhaol y gallant eu gwneud, yn ogystal â dathlu llwyddiant y gwaith y maent yn ei wneud eisoes. 

Os hoffech drafod y dull hwn ymhellach, cysylltwch â Dr Jenny Burns - [email protected]