Mae rhaglen Sefydliad Clwb Pêl-droed Caerdydd (CCFCF) yn gweithio gyda phobl ifanc i gynnig cyfleoedd mewn chwaraeon, addysg a dysgu seiliedig ar waith - gan weithio gyda phobl ifanc rhwng 8 a 18 oed ar sail un i un, gan gynorthwyo pobl ifanc gyda gweithgareddau cadarnhaol o ddiddordeb iddyn nhw, tra'n ceisio dylanwadu arnynt i newid i ymddygiad er gwell.
"Rydym yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a goresgyn rhwystrau drwy gynorthwyo pobl ifanc i fyw bywydau iachach a mwy egnïol, gwella cyfleoedd cyflogaeth ac addysg, a lleihau troseddu ac ail droseddu." (CCFCF 2022)
Rydym ni, yn y Sefydliad Iechyd Meddwl, yn falch o gyd deithio â CCFCF fel partneriaid dysgu. Rydym wedi bod yn lwcus i ddysgu gan eu staff arbenigol, yn ogystal â rhannu ein gwybodaeth ni - gan gynorthwyo i adeiladu capasiti o fewn eu tîm arbenigol ynghylch y pwnc iechyd meddwl.
Rydym yn efelychu agwedd a gymerir mewn rhaglen ymyriad wedi'i dargedu ar gyfer pobl ifanc sydd, neu sy'n debygol o ymwneud â thrais ieuenctid. Mae'r prosiect 'Head in the Game' yn galluogi mentoriaid CCFCF i fod o gymorth i bobl ifanc sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys gwaith mentora un-i-un, cymorth i adeiladu perthnasoedd iach, strategaethau ymdopi a sgiliau cyfathrebu.
I fod o gymorth gyda hyn, rydym yn darparu gweithdai iechyd meddwl wedi’u llywio gan drawma ar draws gweithlu CCFCF, mae'r dull hwn o hyfforddi yn ategu'r rhaglen sydd wedi’i theilwra.
Mae ymchwil yn dangos bod profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs), megis digwyddiadau trawmatig neu amgylcheddau straen uchel yn gallu cynyddu'r risg o ddatblygu problemau iechyd meddwl neu anawsterau dysgu mewn person ifanc. Fodd bynnag, fe all perthnasoedd cadarnhaol gyda phobl eraill a modelau rôl cryf, yn enwedig y rhai sy'n deall, ac sy'n gyfforddus yn siarad am iechyd meddwl, fod o fudd mawr ac o gymorth i'w atal.
Mae staff CCFCF mewn sefyllfa unigryw i annog newid cadarnhaol mewn pobl ifanc sy'n ymwneud â'r rhaglen. Fel mae Perry a Szalavitz (2017) yn ei ddweud 'mae'r profiadau mwyaf therapiwtig yn digwydd, nid o fewn therapi, ond o fewn perthnasoedd iach sy'n digwydd yn naturiol'.
Rydym yn falch o ychwanegu at 'offer iechyd meddwl' y staff sy'n gweithio ar y prosiect - mae ein gwaith blaenorol wedi dangos bod "adeiladu capasiti a hyder y rhai sy'n amgylchynu person ifanc sy'n dioddef o ofid iechyd meddwl yn gallu cynyddu llesiant iechyd meddwl ein poblogaeth ifanc". (Prosiect Gwytnwch Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - MHF - 2021) Rydym yn falch o weld y rhaglen yn mynd o nerth i nerth - gyda phobl ifanc ar draws De Cymru yn elwa ohoni.
Rhaglenni Cymru
Mae chwaraeon yn ffordd wych o liniaru’r niwed y gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ei achosi wrth i berson ifanc ddatblygu a dod yn oedolyn. Gall hefyd fod yn ffactor amddiffynnol hefyd ac adeiladu gwytnwch 1 Yn y Sefydliad Iechyd Meddwl mae gennym dipyn o fentrau chwaraeon ac iechyd meddwl. Un o’r rhain yw ‘Pen yn y Gêm’.
Dysgu mwy