Mae’r crynodeb byr hwn o’r polisi yn rhan o gyfres sy’n nodi’r prif newidiadau y mae angen eu rhoi ar waith i wella iechyd meddwl yn y DU.
Wrth i newid hinsawdd ddwysáu, mae’r cwestiwn ynglŷn ag effaith newid hinsawdd ar ein hiechyd meddwl wedi mynd yn fwyfwy taer dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl wedi bod wrthi’n ceisio lliniaru canlyniadau newid hinsawdd, yn cynnwys cynnal digwyddiad trafod yn uwchgynhadledd COP26 yn Glasgow, yn ogystal â chyhoeddi adroddiad ynglŷn â’r modd y gall cysylltu â natur fod o fudd i’n hiechyd meddwl.1
Beth yw gorbryder am yr hinsawdd?
Mae gofid a straen yn ymatebion naturiol i bryder ynglŷn â chyflwr presennol y blaned. Pan fydd unigolion yn methu â rheoli eu gorbryder, efallai y bydd angen ymyriadau cymdeithasol a seicolegol; ond gwir achos y broblem yw’r sefyllfa ei hun – sef chwalfa’r hinsawdd, a’r holl bethau a fydd yn cael eu colli o ganlyniad i hynny.
Yr ateb sylfaenol ar gyfer gorbryder am yr hinsawdd yw mynd i’r afael â newid hinsawdd. Gall llywodraethau ac awdurdodau lleol gymryd camau pwysig i leihau gorbryder am yr hinsawdd, ond rhaid iddynt ategu ymdrechion i atal newid hinsawdd, gan dderbyn bod poeni am y blaned yn ymateb normal i sefyllfa drychinebus.
Mae arolygon yn awgrymu bod sefyllfa fwyfwy difrifol yr amgylchedd wedi peri i nifer o bobl yn y DU deimlo gorbryder am yr hinsawdd – hynny yw, teimlo gofid ynglŷn â newid hinsawdd a’r effaith a gaiff ar ein hecosystemau, yr amgylchedd, ac iechyd a llesiant pobl.2 Mae gorbryder o’r fath yn gyffredin iawn ymhlith plant a phobl ifanc.
Yn Lloegr yn 2020, darganfu Coleg Brenhinol y Seiciatryddion fod 57% o seiciatryddion plant a’r glasoed yn gweithio gyda chleifion a oedd yn bryderus am faterion amgylcheddol ac ecolegol.3
Er bod pryderu am yr hinsawdd yn ymateb naturiol, rhaid i ymdrechion ar gyfer ymdrin â newid hinsawdd gydnabod y gall pobl sy’n pryderu yn y fath fodd fod angen cymorth, ac y gall straen o’r fath, yn enwedig yn ystod plentyndod, ddwysáu problemau iechyd meddwl neu arwain at broblemau iechyd meddwl mwy difrifol.
Ond gall cymryd camau i fynd i’r afael â newid hinsawdd arwain at wella ein llesiant. Darganfu metaddadansoddiad o 78 o astudiaethau fod yna gydberthynas gref rhwng ymddygiad sy’n gefnogol i’r amgylchedd ar y naill law a lefelau llesiant ar y llaw arall.4
Effeithiau uniongyrchol newid hinsawdd ar iechyd meddwl
Yn ôl pob tebyg, ni fydd y DU yn dioddef chwalfa amgylcheddol i’r un graddau â rhai gwledydd eraill, yn enwedig gwledydd yn Ne’r Byd – yn y tymor byr, o leiaf. Ond byddwn yn cael mwy o lifogydd a mwy o dywydd poeth.5
Gall llifogydd gael effaith fawr ar iechyd meddwl. Yn ôl un astudiaeth a gynhaliwyd ar aelwydydd a oedd wedi dioddef llifogydd, roedd 20% o’r cyfranogwyr yn dioddef iselder tebygol, roedd 28.3% yn dioddef gorbryder ac roedd 36% yn dioddef PTSD tebygol ar ôl blwyddyn.6
Mae gwaith ymchwil rhyngwladol yn tynnu sylw at gysylltiad rhwng tywydd poeth a thrais dan law partneriaid mynwesol, yn cynnwys lladd menywod7, a hefyd mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg ynglŷn â risg hunanladdiad a thymheredd: yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, ceir cysylltiad rhwng cynnydd yn y tymheredd amgylchol a chyfraddau hunanladdiad mewn nifer o wledydd.8
Dangoswyd bod moesoldeb ymhlith pobl â salwch meddwl yn uwch yn ystod tywydd poeth9 ac ymddengys fod symptomau seiciatrig yn gwaethygu ymhlith cleifion a gaiff eu nyrsio mewn adeiladau poeth.10
Mesurau ymaddasu ar gyfer gwella iechyd meddwl
Wrth i effeithiau newid hinsawdd ddwysáu, bydd angen i drefi a dinasoedd ymaddasu i dymheredd uwch a thywydd anrhagweladwy. Gellir gwneud hyn mewn sawl ffordd. Mae rhai ffyrdd yn drwm ar ynni (er enghraifft, defnyddio mwy o systemau awyru) ac mae ffyrdd eraill yn niwtral o ran carbon neu hyd yn oed yn negyddol o ran carbon. Mae enghreifftiau o’r fath yn cynnwys plannu coed i ddarparu cysgod, ynghyd â datblygu a gwella mynediad at amgylcheddau naturiol y gall pobl eu defnyddio i gymryd seibiant rhag amgylcheddau trefol mwyfwy anghyfforddus.
Risgiau a all ddod i ran iechyd meddwl o du polisïau newid hinsawdd
Yr unig ffordd o atal newid hinsawdd rhag gwaethygu yw trwy droi at economïau sero net. Ond fel gyda phob newid economaidd arall, gellir mynd i’r afael â hyn oll mewn ffyrdd a fydd naill ai’n ategu neu’n niweidio iechyd meddwl a llesiant. Rhaid inni sicrhau yr hyn a elwir yn ‘bontio teg’ – heb wneud hyn, rydym yn debygol o waethygu anghydraddoldebau sy’n bodoli eisoes.11 Er enghraifft, wrth i swyddi mewn diwydiannau llygrol leihau, rhaid ystyried sut y gellir cynorthwyo’r unigolion a’r cymunedau dan sylw i ffynnu.
Argymhellion polisi
Cynllunio ar gyfer iechyd meddwl ac atal newid hinsawdd
Rhaid i’r llywodraeth gyflwyno cynlluniau a fydd yn cysylltu camau’n ymwneud ag iechyd meddwl a newid hinsawdd. Mae’r ddau fater yn faterion trawslywodraethol, a cheir gormod o elfennau cydberthynol i’w cynhyrchu mewn seilos.
- Dylai llywodraeth y DU gyflwyno cynllun iechyd meddwl a llesiant trawslywodraethol, 10 mlynedd: rhaid i’r llywodraeth, neu unrhyw lywodraeth arall yn y dyfodol, lunio a chyflawni cynllun iechyd meddwl a llesiant trawslywodraethol, 10 mlynedd, a fydd yn cynnwys yr effaith a gaiff lliniaru newid hinsawdd ar iechyd meddwl.
- Dylai llywodraethau’r DU roi dull “Pontio Teg” ar waith: sefydlwyd Comisiwn Pontio Teg yn yr Alban;12 ac yng Nghymru, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus lywio’u penderfyniadau ar sail cynaliadwyedd, llesiant a thegwch. Dylai awdurdodaethau eraill geisio dysgu ar sail arferion da’r DU er mwyn sicrhau na fydd symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy yn arwain at ymwreiddio anghydraddoldebau presennol, nac yn creu rhai newydd.
Gweithio mewn Ysgolion
Gellir gwneud llawer o bethau mewn ysgolion i fynd i’r afael â gorbryder am yr hinsawdd a helpu i greu dyfodol cynaliadwy. Mae angen cymryd y camau canlynol:
- Atebion addysgu ar gyfer newid hinsawdd mewn ysgolion: gellir mynd i’r afael â gorbryder am yr hinsawdd a newid hinsawdd gyda’n gilydd, trwy gynorthwyo pobl ifanc i weithredu. Mae’r dulliau ymdopi mwyaf effeithiol ar gyfer plant yn cynnwys cymryd rhan mewn ‘gweithredu gobeithiol’.13 Dylai adrannau addysg weithio gydag ysgolion i annog addysg ynglŷn ag atebion newid hinsawdd, gan ganolbwyntio’n briodol ar obaith. Dylai’r addysg hon esbonio sut y gall plant a phobl ifanc gymryd rhan mewn systemau gwleidyddol, a dylanwadu ar y systemau hynny, er mwyn helpu i gyflawni hyn. Un ffordd o wneud hyn yw trwy gynorthwyo plant i gymryd rhan mewn gweithredu ar y cyd trwy gyfrwng rhaglenni yn yr ysgol.
- Dulliau ysgol gyfan o ymdrin â newid hinsawdd: ers amser maith, mae nifer o bobl yn y sector iechyd meddwl wedi siarad o blaid ‘dulliau ysgol gyfan’ o ymdrin ag iechyd meddwl; hynny yw, dulliau a gaiff eu hintegreiddio yn rolau’r holl staff a ledled y cwricwlwm. Ategir y dulliau hyn gan yr Adran Addysg a NICE.14 Mae Cymru eisoes yn rhoi ‘dull ysgol gyfan’ ar waith ar gyfer ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol, dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac ar hyn o bryd mae wedi cyrraedd y cyfnod gweithredu.15 Gallai dull o’r fath fod yn dempled defnyddiol ar gyfer rhaglenni tebyg trwy weddill y DU; ond hefyd, gellir ei ymestyn er mwyn cynnwys materion gorgyffyrddol fel newid hinsawdd a’i effaith ar iechyd meddwl mewn ysgolion16. Er mwyn gallu pennu a gweithredu dulliau priodol o integreiddio iechyd meddwl mewn addysg newid hinsawdd, bydd angen cyfarwyddyd gan y llywodraeth ar gyfer ymdrin â dulliau ‘seilo’ mewn ysgolion. Yn arbennig, bydd datblygiadau cadarnhaol diweddar, megis hyfforddi uwch-arweinwyr iechyd meddwl ac ymestyn mynediad at gymorth iechyd meddwl cynnar, yn llai effeithiol os na fyddant yn cydnabod gorbryder am yr hinsawdd.
Hyfforddi’r gweithlu iechyd meddwl
Dylai gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl feddu ar y sgiliau i ddelio â gorbryder am yr hinsawdd. Mae pobl ifanc wedi dweud bod gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl yn diystyru eu teimladau ynglŷn â’r pwnc hwn,17 ac mae angen i gyrff proffesiynol a darparwyr addysg seiciatrig/seicolegol/cwnsela sicrhau bod ymarferwyr yn deall y maes newydd hwn a’u bod yn barod i ddelio gydag ef yn eu hymarfer.
Ymchwil a Data Newydd
Mae’r effaith a gaiff hinsawdd newidiol ar iechyd meddwl yn faes astudiaeth sy’n dod i’r amlwg ac mae angen inni ddeall effeithiau newid hinsawdd yn well yng nghyd-destun y DU. Er mwyn gwneud hyn, rhaid mynd ati i wneud y canlynol:
- Mapio’r gydberthynas rhwng llifogydd, gwres eithafol ac iechyd meddwl er mwyn i lywodraethau lleol allu datblygu cynlluniau effeithiol i gynorthwyo’r bobl sy’n wynebu’r risg fwyaf yn eu cymunedau, yn unol ag argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd.
- Cynnal ymchwil ar y gydberthynas rhwng tymheredd eithafol a hunanladdiad, symptomau seiciatrig gwaeth a chynnydd mewn marwolaethau, yn ogystal â thrais dan law partneriaid mynwesol.
Ymdrin â Pherygl Llifogydd
Dylid cynorthwyo awdurdodau lleol i atal effeithiau llifogydd a mynd i’r afael ag effeithiau o’r fath, gan gydnabod y costau cynyddol a ddaw i’w rhan wrth i achosion o lifogydd waethygu a digwydd yn amlach. Dylai hyn adeiladu ar ganllawiau a chyngor iechyd presennol y llywodraeth mewn perthynas â llifogydd.19
Creu Amgylcheddau Iachach
Caiff iechyd meddwl ei greu yn yr amgylcheddau rydym yn byw ynddynt; yn aml, bydd amgylcheddau sy’n ‘iachach yn feddyliol’ yn amgylcheddau carbon is. Dylai awdurdodau lleol wneud y canlynol:
- Darparu ar gyfer cerdded a beicio: dylai seilwaith trafnidiaeth annog llwybrau diogel a dymunol ar gyfer beicio a cherdded, gan helpu pobl i wireddu’r manteision iechyd sy’n gysylltiedig ag ymarfer corff20 wrth deithio heb adael ôl troed carbon sylweddol.
- Plannu coed: o ran cynlluniau i symud tuag at economïau sero net, dylai un elfen gynnwys plannu coed ar raddfa fawr (yn cynnwys gorchudd coed mewn ardaloedd trefol) a dad-ddofi tir. Gall rhaglenni o’r fath helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd a’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Hefyd, os cânt eu cyflwyno yn y ffordd iawn yn y cymunedau iawn, gallant ategu iechyd meddwl pobl, o gofio’r cysylltiad cydnabyddedig rhwng mynediad at natur ac iechyd meddwl.21
- Cynorthwyo prosiectau cymdeithasol perthnasol: mae mentrau fel The Resilience Project yn cynnig mannau i bobl ifanc ddod ynghyd a chynorthwyo’r naill a’r llall wrth ddelio â gorbryder am yr hinsawdd.22 Hefyd, maent yn grymuso pobl ifanc i ddatblygu’n arweinwyr effeithiol yn y mudiad hinsawdd. Gall prosiectau o’r fath helpu pobl ifanc i deimlo’n llai ynysig ac esgor ar newid cadarnhaol yn eu cymuned leol.
Materion eraill
Nid yw’r briff hwn yn ymdrin â phob agwedd ar bolisïau sy’n effeithio ar iechyd meddwl a newid hinsawdd. Yn benodol, nid yw’n ymdrin â rôl tai da sydd wedi’u hinswleiddio’n briodol, datgarboneiddio’r GIG na phwysigrwydd materion cydberthynol yn ymwneud ag ansawdd aer, iechyd meddwl a newid hinsawdd. Mae’r pynciau hyn y tu hwnt i arbenigedd y Sefydliad Iechyd Meddwl.
Cyhoeddwyd: Hydref 2024 / I’w adolygu: Ebrill 2025
1 Y Sefydliad Iechyd Meddwl, Nature: How connecting with nature benefits our mental health, 2021, Ar gael ar: https://www.mentalhealth.org.uk/our-work/research/nature-how-connecting…
2 Prifysgol Cornell, Climate Change & Eco-Anxiety, Ar gael ar: https://health.cornell.edu/resources/health-topics/climate-change#:~:text=What%20is%20Climate%20Anxiety%3F,human%20health%20and%20well-being.
3 Ymchwil Coleg Brenhinol y Seiciatryddion 2020, anghyhoeddedig.
4 Zawadzki SJ, Steg L, Bouman T. Meta-analytic evidence for a robust and positive association between individuals’ pro-environmental behaviors and their subjective wellbeing.
5 Y Swyddfa Dywydd. Effects of Climate Change [ar-lein]. Ar gael ar: https://www.metoffice.gov.uk/weather/climate-change/effects-of-climate-… [cyrchwyd ar 23 Tachwedd 2023]
6 Waite TD, Chaintarli K, Beck C, Bone A, Amlôt R, Kovats et al (2017) The English national cohort study of flooding and health: cross-sectional analysis of mental health outcomes at year one. BMC Public Health, 129: doi: 10.1186/ s12889-016-4000-2
7 Belén Sanz-Barbero, Cristina Linares, Carmen Vives-Cases, José Luis González, Juan José López-Ossorio, Julio Díaz, Heat wave and the risk of intimate partner violence, Science of The Total Environment, Cyfrol 644, 2018, Tudalennau 413-419, ISSN 0048-9697, https://doi.org/10.1016/j.scitotenv.2018.06.368.
8 Sefydliad Iechyd y Byd (2022) Mental Health and Climate Change: Policy Brief https://www.who.int/publications/i/item/9789240045125
9 Page, L, Hajat S, Kovats S, Howard L (2012) Temperature-related deaths in people with psychosis, dementia and substance misuse. British Journal of Psychiatry, 200:485–90
10 Tartarini F, Cooper P, Fleming R (2017) Indoor air temperature and agitation of nursing home residents with dementia. American Journal of Alzheimer’s Disease & Other Dementias, 32(5): 272–81
11 Ysgol Economeg a Gwyddor Wleidyddol Llundain, What is the just transition and what does it mean for climate action?, 20 Chwefror 2024, Ar gael ar: https://www.lse.ac.uk/granthaminstitute/explainers/what-is-the-just-transition-and-what-does-it-mean-for-climate-action/#:~:text=The%20just%20transition%20is%20a,in%20achieving%20net%20zero%20globally.
12 Gellir cael rhagor o wybodaeth yma: https://www.gov.scot/groups/just-transition-commission/
13 Emma L. Lawrance, Rhiannon Thompson, Jessica Newberry Le Vay, Lisa Page a Neil Jennings (2022) The Impact of Climate Change on Mental Health and Emotional Wellbeing: A Narrative Review of Current Evidence, and its Implications, International Review of Psychiatry, 34:5, 443-498, DOI: 10.1080/09540261.2022.2128725
14 Llywodraeth Ei Fawrhydi. Promoting children and young people’s mental health and wellbeing. 2021; Ar gael ar: https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/1020249/Promoting_children_and_young_people_s_mental_health_and_wellbeing.pdf
15 Iechyd Cyhoeddus Cymru, Whole School Approach to Emotional and Mental Wellbeing (WSAEMWB), Ar gael ar: https://phw.nhs.wales/topics/promoting-individual-and-community-wellbeing/whole-school-approach-to-emotional-and-mental-wellbeing/
16 Nodir rhagor o fanylion am integreiddio iechyd meddwl a newid hinsawdd mewn ysgolion mewn papur a luniwyd gan y Sefydliad Arloesi Iechyd Byd-eang (IGHI) yng Ngholeg Imperial Llundain.
17 James Diffey, Sacha Wright, Jennifer Olachi Uchendu, Shelot Masithi, Ayomide Olude, Damian Omari Juma, Lekwa Hope Anya, Temilade Salami, Pranav Reddy Mogathala, Hrithik Agarwal, Hyunji Roh, Kyle Villanueva Aboy, Joshua Cote, Aditiya Saini, Kadisha Mitchell, Jessica Kleczka, Nadeem Gomaa Lobner, Leann Ialamov, Monika Borbely, Tupelo Hostetler, Alaina Wood, Aoife Mercedes Rodriguez-Uruchurtu ac Emma Lawrance (2022) “Not about us without us” – the feelings and hopes of climate-concerned young people around the world, International Review of Psychiatry, 34:5, 499-509, DOI: 10.1080/09540261.2022.2126297
18 Sefydliad Iechyd y Byd (2022) Mental Health and Climate Change: Policy Brief https://www.who.int/publications/i/item/9789240045125
19 Llywodraeth y DU. Flooding: health guidance and advice [Ar-lein] https://www.gov.uk/government/collections/flooding-health-guidance-and-advice [Cyrchwyd ar 23 Tachwedd 2023]
20 Er enghraifft, o ran ymdrin â symptomau iselder: Heissel A, Heinen D, Brokmeier LL, et al Exercise as medicine for depressive symptoms? A systematic review and meta-analysis with meta-regression British Journal of Sports Medicine. Cyhoeddwyd ar-lein am y tro cyntaf: 01 Chwefror 2023. doi: 10.1136/bjsports-2022-106282
21 Gweler adroddiad y Sefydliad Iechyd Meddwl ‘How connecting with nature benefits our mental health’: https://www.mentalhealth.org.uk/our-work/research/nature-how-connecting-nature-benefits-our-mental-health
22 The Resilience Project, Ar gael ar: https://theresilienceproject.org.uk/
Deunyddiau darllen pellach:
- Ymchwil ac argymhellion y ‘Climate Cares Centre’, Coleg Imperial Llundain
- Sefydliad Iechyd y Byd (2022) Mental Health and Climate Change: Policy Brief
- Y Sefydliad Iechyd Meddwl COP26 Citizens’ Forum on Climate Change and Mental Health
- Y Sefydliad Iechyd Meddwl Nature: How connecting with nature benefits our mental health
- Ymchwil ac argymhellion y ‘Climate Cares Centre’, Coleg Imperial Llundain
- Sefydliad Iechyd y Byd (2022) Mental Health and Climate Change: Policy Brief
- Y Sefydliad Iechyd Meddwl COP26 Citizens’ Forum on Climate Change and Mental Health
- Y Sefydliad Iechyd Meddwl Nature: How connecting with nature benefits our mental health