Cefnogaeth Cymheiriaid Covid Hir

Gall Covid Hir fod yn gyflwr sy’n ynysu’n anhygoel. Gall gyfyngu ar eich egni, cymylu eich ymennydd, ac effeithio ar eich symudedd. Ar ben hynny, mae llawer o bobl â Covid Hir yn dweud bod rhai wedi bod yn nawddoglyd neu wrthod eu credu wrth iddynt drafod eu symptomau ag eraill, yn eu bywydau personol a gyda gweithwyr proffesiynol. 

Rydym wedi partneru â’r Rhaglen Addysg i Gleifion (EPP) sy’n cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gwneud gwaith arloesol yn addysgu technegau hunanreoli, a ddatblygwyd ar draws amrywiaeth o gyflyrau iechyd tymor hir a'u cymhwyso i'r cyflwr newydd hwn mewn Covid Hir. Er bod yr addysg y mae'r cyfranogwyr hyn yn ei chael yn hanfodol, yr hyn sydd yr un mor bwerus yw'r cysylltiadau cymheiriaid a wnânt ag eraill ar y cwrs. Dyma ble mae'r prosiect yn camu i’r adwy. 

Graphic of a mixture of young people all wearing face masks for COVID-19

Yr wythnos ar ôl i gyfranogwyr orffen y cwrs hunanreoli maent yn parhau i gwrdd â ni fel cymheiriaid. Mae ein staff prosiect yn eu hyfforddi am wyth wythnos i gynnal grwpiau cymorth cymheiriaid cynaliadwy, llwyddiannus. Y nod yw cael grwpiau sy'n gallu cynnal eu hunain cyhyd ag y mae'r cyfranogwyr am iddynt wneud. Rydym yn hwyluso cyfranogwyr i ddylunio pob agwedd ar y profiad grŵp, o amseru a logisteg i gynnwys y sgyrsiau. Yn yr amser byr rydym wedi bod wrthi, mae’r cyfranogwyr wedi disgrifio’r prosiect hwn fel “achubiaeth”, rhywbeth sy’n golygu nad ydyn nhw “ar eu pen eu hunain”. 

Rydym yn falch iawn bod ein prosiect gydag EPP wedi’i amlygu gan Gomisiwn Bevan fel “Enghraifft” o arloesi mewn gofal iechyd. 

Learn more about our Covid Response Programme

The COVID-19 pandemic has had a negative impact on the mental health of people all over the country but people who already experience inequality have been far more adversely affected. We have invested in our Covid Response Programme to deliver targeted support for lone parents, refugees, people from Black and minority ethnic communities, and people living with long term health conditions.

Find out more

Related content

Coronavirus and mental health resources

After living in a pandemic for so long, you may be feeling exhausted, fed up, depressed or anxious. Our resources offer helpful tips and advice that we hope will help you, your friends, and your family to look after your mental health.

A-Z Topic: Long-term physical conditions and mental health

Long-term physical conditions such as diabetes, arthritis or asthma can have a significant impact on your mental health. This doesn’t mean mental ill-health is inevitable, though. There is support available, as well as things you can do to help yourself.