Mae’r crynodeb byr hwn o’r polisi yn rhan o gyfres sy’n nodi’r prif newidiadau y mae angen eu rhoi ar waith i wella iechyd meddwl yn y DU. Mae’n defnyddio ymchwil a gwaith dadansoddi’r Sefydliad Iechyd Meddwl – gweler yr adran ‘deunyddiau darllen pellach’.
Cynnwys
Beth yw delwedd corff?
Mae ‘delwedd corff’ yn disgrifio’r modd rydym yn meddwl ac yn teimlo am ein cyrff. Os oes gennym bryderon ynglŷn â delwedd ein corff, nid yw hynny ynddo’i hun yn golygu bod gennym broblem iechyd meddwl; ond mae pryderu am ddelwedd ein corff yn cynyddu’r risg y byddwn yn dioddef problemau iechyd meddwl.1
Mae’r ffordd rydym yn meddwl ac yn teimlo am ein corff yn gallu bod yn gymhleth. Mae’r cysyniad o ddelwedd corff yn gallu cynnwys: y ffordd rydym yn gweld ein corff a pha mor gywir yw’r canfyddiad hwnnw; pa mor fodlon ydym â’n corff a’n pryd a’n gwedd; ac i ba raddau y mae barn pobl eraill ynglŷn â’n pryd a’n gwedd yn effeithio ar y ffordd y teimlwn amdanom ein hunain.2,3,4,5
Mae meddu ar ddelwedd corff gadarnhaol yn golygu ein bod yn fodlon â’n corff, ein bod yn ei barchu, ein bod yn gwerthfawrogi ac yn derbyn ei alluoedd, a bod gennym gydbwysedd iach rhwng gwerthfawrogi ein corff a gwerthfawrogi agweddau eraill arnom ein hunain.6,7,8
Trosolwg o’r dystiolaeth
Y berthynas rhwng delwedd corff ac iechyd corfforol a meddyliol
Mae teimlo anfodlonrwydd â’r corff yn gysylltiedig ag ansawdd bywyd gwaelach a gofid seicolegol,9 a hefyd mae’n cynyddu’r tebygolrwydd y daw symptomau iselder i’r amlwg,10,11 ynghyd â’r risg sy’n gysylltiedig ag ymddygiad bwyta afiach ac anhwylderau bwyta.12,13 Ceir cysylltiad agos gyda phroblemau iechyd meddwl fel anhwylder dysmorffia’r corff ac anorecsia a bwlimia.
Pobl Ifanc
Yn ôl gwaith ymchwil a gynhaliwyd gennym yn 2019, roedd 40% o bobl ifanc yn eu harddegau yn teimlo’n bryderus, roedd 37% yn teimlo gofid ac roedd 31% yn teimlo cywilydd oherwydd delwedd eu corff.14
Mae anfodlonrwydd â’r corff ynghyd â’r pwysau i fod yn denau wedi cael eu cysylltu â symptomau iselder ymhlith pobl ifanc,15,16 yn ogystal â gorbryder. Ceir cydberthynas rhwng pwysau a mynegai màs y corff (BMI) ar y naill law ac anfodlonrwydd â’r corff ar y llaw arall, ac mae pobl ifanc sydd dros eu pwysau neu bobl ifanc ordew yn sôn i raddau helaethach am symptomau iselder a hunan-barch isel, o gymharu â’u cyfoedion.18,19 Mae’n fwy tebygol y bydd menywod ifanc sy’n rheoli eu pwysau mewn modd eithafol (e.e. cymryd tabledi colli pwysau, diwretigion neu garthyddion) yn dioddef meddyliau hunanladdol.20
Mewn cyferbyniad, caiff bodlonrwydd â’r corff a gwerthfawrogi’r corff eu cysylltu â gwell llesiant yn gyffredinol21 a llai o ymddygiadau ‘colli pwysau’ afiach.22,23
Oedolion
Mae pryderon ynglŷn â delwedd corff yn effeithio ar oedolion hefyd. Yn ôl arolygon a gynhaliwyd gennym yn 2019, dim ond 21% o oedolion a oedd yn teimlo’n fodlon â delwedd eu corff yn y flwyddyn flaenorol; roedd un o bob pump o oedolion (20%) yn teimlo cywilydd, ac roedd 19% yn casáu delwedd eu corff. Dywedodd ychydig dros draean nad oeddynt erioed wedi teimlo gorbryder (34%) nac iselder (35%); dywedodd un o bob wyth (13%) eu bod wedi cael meddyliau neu deimladau hunanladdol oherwydd delwedd eu corff.
Beth sy’n dylanwadu ar ddelwedd ein corff?
Mae nifer o ffactorau cymdeithasol yn effeithio ar ddelwedd corff: ein perthynas â’n rhieni, ein teulu ehangach a’n cyfeillion;24 y modd y mae ein rhieni, ein teulu ehangach a’n cyfoedion yn teimlo ac yn siarad am gyrff a phryd a gwedd; 25,26 i ba raddau y down i gysylltiad â chyrff ‘delfrydol’ neu afrealistig ar y cyfryngau ac ar apiau golygu delweddau ar y cyfryngau cymdeithasol; 27,28,29,30 a’r pwysau i fod â phryd a gwedd neilltuol neu gyd-fynd â’r ‘corff ‘delfrydol,31,32 apiau golygu delweddau,33 a’r pwysau i fod â phryd a gwedd neilltuol neu gyd-fynd â’r corff ‘delfrydol’.34
Rhaid i ddulliau iechyd meddwl y cyhoedd, sy’n anelu at atal niwed a’n helpu i wrthsefyll dylanwadau o’r fath, ddechrau yn ystod plentyndod. Dylai ymdrechion o’r fath gynnwys rhannu cyngor yn eang ynglŷn â’r modd y gall rhieni a gofalwyr feithrin delwedd corff gadarnhaol ymhlith plant ifanc;35 dyma wybodaeth bwysig hefyd ar gyfer gweithlu’r blynyddoedd cynnar.
Gwelir bod ymyriadau ac ymgyrchoedd wedi cael eu targedu’n bennaf at boblogaethau gwyn, benywaidd a dosbarth canol; ychydig iawn ohonynt sy’n ymwneud â diwylliannau penodol.36 O’r herwydd, mae angen mynd i’r afael â gwaith a dargedir at ddemograffeg arall, er mwyn deall pa mor effeithiol yw ymyriadau i wahanol grwpiau, yn cynnwys pobl o gymunedau wedi’u hiliaethu.
Egwyddorion a dull craidd
- Mae gan bob un ohonom yr hawl i deimlo’n gyfforddus ac yn hyderus yn ein croen eu hunain a gallwn gymryd camau bach yn ein bywydau beunyddiol i helpu i feithrin amgylchedd sy’n fwy parod i dderbyn.
- Caiff rhan helaeth o’r niwed a wneir i’n hiechyd meddwl ei ysgogi gan ymarfer masnachol. Mae gan lywodraethau, rheoleiddwyr a chorfforaethau rôl o ran ein gwarchod rhag y niwed hwn.
- Mae gan hysbysebwyr a chwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol rôl arbennig o ran niweidio delwedd corff nifer o bobl, a rhaid i reoleiddwyr yr hysbysebwyr a’r cwmnïau hyn wneud mwy i wella’r sefyllfa.
- Yn hytrach nag anelu at gorff delfrydol o un math, dylai pob un ohonom – yn unigol, yn broffesiynol ac yn gorfforaethol – anelu at greu cymdeithas sy’n croesawu ac yn hyrwyddo amrywiaeth yr hil ddynol. Mae delwedd corff yn fater iechyd y cyhoedd ac mae’n berthnasol i sawl rhan o’r gymdeithas; ni all y cyfrifoldeb dros fynd i’r afael â hyn oll orwedd ar ysgwyddau un adran o fewn y llywodraeth yn unig.
Argymhellion ar gyfer gweithredu
Dylai adrannau’r llywodraeth weithio gyda’r diwydiant a chyda chyrff ‘hyd braich’ er mwyn lleihau’r pwysau a roddir ar bobl yn sgil delwedd corff ac er mwyn ymyrryd â’r llwybrau a all arwain at niwed mawr o’r fath i iechyd meddwl pobl, fel a ganlyn:
Rheoleiddio’r amgylchedd ar-lein er mwyn lleihau niwed sy’n gysylltiedig â delwedd corff
- Yn ddiweddar, pasiwyd y Bil Diogelwch Ar-lein gan Lywodraeth y DU – ac mae hyn yn rhywbeth i’w groesawu. Ond go brin y bydd y bil hwn yn diogelu defnyddwyr rhag gweld gormod o gynnwys a fydd yn cyflwyno safonau corff afrealistig a all niweidio pobl. Dylid ailystyried y ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau y gellir diogelu plant yn llwyr rhag gormod o gynnwys algorithmig sy’n cyflwyno delwedd o’r corff delfrydol, ac er mwyn rhoi dewis clir i oedolion ynghylch a fyddant yn gweld cynnwys o’r fath ai peidio.
- Dylid cyflwyno deddfwriaeth i osod cyfyngiadau oedran gorfodol ar apiau sy’n golygu cyrff ac wynebau, er mwyn sicrhau mai oedolion yn unig a all eu defnyddio. Ar hyn o bryd, nid oes cyfyngiadau oedran i’w cael ar y mwyafrif o’r apiau hyn; felly, yn aml, mae plant mor ifanc â phump oed yn gallu eu lawrlwytho a’u defnyddio.
- Dylai cwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol ymchwilio i ffyrdd newydd o ddefnyddio’u platfformau er mwyn gallu hyrwyddo delwedd corff gadarnhaol a sicrhau y cyflwynir amrywiaeth o wahanol gyrff mewn modd cadarnhaol gerbron eu defnyddwyr.
Hysbysebu
- Dylai’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol weithio’n agos gyda’r Awdurdod Safonau Hysbysebu i fynd i’r afael â phwysau o du delwedd corff sy’n gysylltiedig â hysbysebu.
- Dylai’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol annog yr Awdurdod Safonau Hysbysebu i ddiweddaru ei ganllawiau ar gyfrifoldeb cymdeithasol a delwedd corff er mwyn adlewyrchu diffiniad ehangach o ddelwedd corff afiach.
- Dylai chwaer-asiantaeth yr Awdurdod Safonau Hysbysebu, sef y Pwyllgor Ymarfer Hysbysebu, gydnabod bod delwedd corff yn niwed penodol, gan adlewyrchu hyn yn y Codau sy’n llywodraethu hysbysebion darlledu a hysbysebion o fath arall.
Addysg a llythrennedd yn y cyfryngau
- Gall ymyrraeth gynnar mewn ysgolion fod yn ffordd effeithiol o leihau’r effaith a gaiff bwlio sy’n seiliedig ar ymddangosiad ar ddelwedd corff pobl a’u hiechyd meddwl ehangach, a dylid canolbwyntio’n benodol ar hyn mewn rhaglenni sy’n mynd i’r afael â bwlio.
- Dylai adrannau addysg ledled holl wledydd y DU gynnwys addysg yn ymwneud â hyrwyddo ymagwedd gadarnhaol tuag at y corff yn y cwricwlwm Addysg Iechyd.39 Gellir gweld enghraifft o hyn yn yr Alban, oherwydd un o gamau hollbwysig Cynllun Cyflawni’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant ar gyfer 2023-25 yw datblygu adnodd ar gyfer ysgolion i ategu trafodaethau gyda phobl ifanc ynglŷn â phynciau fel delwedd corff, amser o flaen sgrin a’r cyfryngau cymdeithasol.40
- Hefyd, dylai pecyn cymorth yn ymwneud â llythrennedd delwedd corff a llythrennedd yn y cyfryngau, a fydd yn cael ei gydgynhyrchu gyda phobl ifanc ac a fydd yn cynnwys gwybodaeth am arfarnu’r modd y mae buddiannau masnachol yn ceisio dylanwadu ar ddefnyddwyr trwy ddefnyddio cyrff ‘delfrydol’, fod yn elfen orfodol o’r cwricwlwm.
Cyngor, hyfforddiant ac ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd
Mae gan sawl rhan o’r llywodraeth rôl o ran helpu i ategu delwedd corff pobl. Er enghraifft:
- Dylai’r Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau ac asiantaethau iechyd y cyhoedd yn y gweinyddiaethau datganoledig ddiweddaru eu cyngor magu plant er mwyn cynnwys y modd y gall rhieni a gofalwyr fynd ati’n gynnar iawn i ddylanwadu’n gadarnhaol ar deimladau plant ynglŷn â’u cyrff, a dylai’r GIG sicrhau y rhoddir hyfforddiant a chanllawiau ar fagu plant a bwyta’n iach i feddygon teulu, ymwelwyr iechyd, deietegwyr, staff gofal cymdeithasol ac ymarferwyr eraill sy’n gweithio ar y rheng flaen.
- Dylai llywodraeth y DU adolygu ac arfarnu’r effaith seicolegol a gaiff ei hymgyrchoedd gordewdra a symud tuag at strategaeth a seilir i raddau helaethach ar dystiolaeth, gan fynd i’r afael hefyd ag amgylcheddau afiach sy’n arwain at ordewdra, yn unol ag argymhellion Pwyllgor Menywod a Chydraddoldebau Senedd y DU.
Cyhoeddwyd: Hydref 2024 / i’w adolygu: Ebrill 2025
1. Mental Health Foundation (May 2019). Body Image: How we think and feel about our bodies. Llundain: Mental Health Foundation.
2. Adroddiad ar gyfer Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth (Mai 2013) Body image - a rapid evidence assessment of the literature. Llundain.
3. Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth. Body confidence campaign progress report 2015. Llundain; 2015.
4. Y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol. Taking action on body image An active citizenship toolkit for those working with young people. [Rhyngrwyd]. 2014.
5. Cyngor Ieuenctid Prydain. A body confident future. [Rhyngrwyd]. 2017.
6. Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth. Body confidence campaign progress report 2015. Llundain; 2015.
7. Y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol. Taking action on body image An active citizenship toolkit for those working with young people. [Rhyngrwyd]. 2014.
8. Andrew R, Tiggemann M, Clark L. Predictors and Health-Related outcomes of positive body image in adolescent girls: A prospective study. Dev Psychol. 2016 Mar;52(3):463–74
9. Griffiths S, Hay P, Mitchinson D, Mond J, McLean S, Rodgers B, et al. Sex differences in the relationships between body dissatisfaction, quality of life and psychological distress. Aust N Z J Public Health. 2016 Dec;40(6):518–22
10. Jackson KL, Janssen I, Appelhans BM, Kazlauskaite R, Karavolos K, Dugan SA, et al. Body image satisfaction and depression in midlife women: The Study of Women’s Health Across the Nation (SWAN). Arch Womens Ment Health. 2014 Jun 13;17(3):177–87.
11. Goldschmidt AB, Wall M, Choo THJ, Becker C, Neumark-Sztainer D. Shared risk factors for mood-, eating-, and weight-related health outcomes. Heal Psychol. 2016 Mar;35(3):245–52.
12. Goldschmidt AB, Wall M, Choo THJ, Becker C, Neumark-Sztainer D. Shared risk factors for mood-, eating-, and weight-related health outcomes. Heal Psychol. 2016 Mar;35(3):245–52.
13. Smolak L, Levine MP. Body Image, Disordered Eating and Eating Disorders: Connections and Disconnects. In: Smolak L, Levine MP, editors. The Wiley Handbook of Eating Disorders, Assessment, Prevention, Treatment, Policy and Future Directions. Chichester, UK: John Wiley & Sons, Ltd; 2015. p. 1–5
14. Mental Health Foundation (May 2019). Body Image: How we think and feel about our bodies. London: Mental Health Foundation.
15. Sharpe H, Patalay P, Choo TH, Wall M, Mason SM, Goldschmidt AB, et al. Bidirectional associations between body dissatisfaction and depressive symptoms from adolescence through early adulthood. Dev Psychopathol. 2018 Oct 16;30(4):1447–58.
16. Chaiton M, Sabiston C, O’Loughlin J, McGrath JJ, Maximova K, Lambert M. A structural equation model relating adiposity, psychosocial indicators of body image and depressive symptoms among adolescents. Int J Obes. 2009 May 10;33(5):588–96.
17. Vannucci A, Ohannessian CMC. Body Image Dissatisfaction and Anxiety Trajectories During Adolescence. J Clin Child Adolesc Psychol. 2018 Sep 3;47(5):785–95.
18. Austin SB, Haines J, Veugelers PJ. Body satisfaction and body weight: Gender differences and sociodemographic determinants. BMC Public Health. 2009 Dec 27;9(1):313.
19. Goldfield GS, Moore C, Henderson K, Buchholz A, Obeid N, Flament MF. Body dissatisfaction, dietary restraint, depression, and weight status in adolescents. J Sch Health. 2010 Apr;80(4):186–92.
20. Crow S, Eisenberg ME, Story M, Neumark-Sztainer D. Are Body Dissatisfaction, Eating Disturbance, and Body Mass Index Predictors of Suicidal Behavior in Adolescents? A Longitudinal Study. J Consult Clin Psychol. 2008 Oct;76(5):887–92.
21. Swami V, Weis L, Barron D, Furnham A. Positive body image is positively associated with hedonic (emotional) and eudaimonic (psychological and social) well-being in British adults. J Soc Psychol. 2018 Sep 3;158(5):541–52.
22. Andrew R, Tiggemann M, Clark L. Predictors and Health-Related outcomes of positive body image in adolescent girls: A prospective study. Dev Psychol. 2016 Mar;52(3):463–74.
23. Gillen MM. Associations between positive body image and indicators of men’s and women’s mental and physical health. Body Image. 2015 Mar;13:67–74.
24. Holsen I, Jones DC, Birkeland MS. Body image satisfaction among Norwegian adolescents and young adults: A longitudinal study of the influence of interpersonal relationships and BMI. Body Image. 2012 Mar;9(2):201–8.
25. Neves CM, Cipriani FM, Meireles JFF, Morgado FF da R, Ferreira MEC. Body image in childhood: An integrative literature review. Rev Paul Pediatr. 2017;35(3):331–9.
26. Neumark-Sztainer D, Bauer KW, Friend S, Hannan PJ, Story M, Berge JM. Family weight talk and dieting: How much do they matter for body dissatisfaction and disordered eating behaviors in adolescent girls? J Adolesc Heal. 2010. Sep;47(3):270–6.
27. Burrowes, N. N. Adroddiad ar gyfer Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth (Mai 2013), Body image - a rapid evidence assessment of the literature. Llundain.
28. Holland G, Tiggemann M. A systematic review of the impact of the use of social networking sites on body image and disordered eating outcomes. Body Image. 2016; 17:100-10
29. Cafri G, Yamamiya Y, Brannick M, Thompson JK. The influence of sociocultural factors on body image: A meta-analysis. Clin Psychol Sci Pract. 2005 May 11;12(4):421–33.
30. Mental Health Foundation, University of Birmingham and Cochrane Common Mental Disorders Group (2020). Image-editing apps and mental health: Briefing on reducing the influence of the commercial determinants of health. London: Mental Health Foundation.
31. Cafri G, Yamamiya Y, Brannick M, Thompson JK. The influence of sociocultural factors on body image: A meta-analysis. Clin Psychol Sci Pract. 2005 May 11;12(4):421–33.
32. Cafri G, Yamamiya Y, Brannick M, Thompson JK. The influence of sociocultural factors on body image: A meta-analysis. Clin Psychol Sci Pract. 2005 May 11;12(4):421–33.
33. Mental Health Foundation, University of Birmingham and Cochrane Common Mental Disorders Group (2020). Image-editing apps and mental health: Briefing on reducing the influence of the commercial determinants of health. London: Mental Health Foundation.
34. Cafri G, Yamamiya Y, Brannick M, Thompson JK. The influence of sociocultural factors on body image: A meta-analysis. Clin Psychol Sci Pract. 2005 May 11;12(4):421–33.
35. Hart LM, Damiano SR, Chittleborough P, Paxton SJ, Jorm AF. Parenting to prevent body dissatisfaction and unhealthy eating patterns in preschool children: A Delphi consensus study. Body Image. 2014 Sep;11(4):418–25.
36. George JBE, Franko DL. Cultural issues in eating pathology and body image among children and adolescents. J Pediatr Psychol. 2010 Apr 1;35(3):231–42.
37. Mental Health Foundation, University of Birmingham and Cochrane Common Mental Disorders Group (2020). Image-editing apps and mental health: Briefing on reducing the influence of the commercial determinants of health. Llundain: Mental Health Foundation.
38. eir tystiolaeth dda’n ymwneud ag atal ar gyfer rhaglenni gwrthfwlio – Gweler: The Economic Case for Investing in the Prevention of Mental Health Conditions in the UK: https://www.mentalhealth.org.uk/sites/default/files/2022-06/MHF-Investing-in-Prevention-Full-Report.pdf
39. Mental Health Foundation (Gorffennaf 2021). Mind Over Mirror: Young people’s experiences of body image issues and their ideas for policy solutions.
40. Llywodraeth yr Alban, Mental health and wellbeing strategy: delivery plan 2023-2025, Priority 2: Strategic Action 2.1, Ar gael ar: https://www.gov.scot/publications/mental-health-wellbeing-delivery-plan-2023-2025/pages/15/
41. Hart LM, Damiano SR, Chittleborough P, Paxton SJ, Jorm AF. Parenting to prevent body dissatisfaction and unhealthy eating patterns in preschool children: A Delphi consensus study. Body Image. 2014 Sep;11(4):418–25.
42. Y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldebau. Changing the Perfect Picture: an inquiry into body image. [Rhyngrwyd]. Llundain; Ebrill 9 2021.
- Mental Health Foundation (May 2019). Body Image: How we think and feel about our bodies. Llundain: Mental Health Foundation.
- Mental Health Foundation Scotland and University of Strathclyde (Spring 2019) #HealthySocialMedia: A report on personal experiences of social media and strategies for building a positive relationship between social media use and body image. Building Positive Body Image on Social Media.
- Mental Health Foundation, University of Birmingham and Cochrane Common Mental Disorders Group (2020). Image-editing apps and mental health: Briefing on reducing the influence of the commercial determinants of health. Llundain: Mental Health Foundation.
- Llywodraeth yr Alban a Sefydliad Iechyd Meddwl yr Alban (Mawrth 2020). Body Image: Recommendation report from the Scottish Government’s Body Image Advisory Group on Good Body Image.
- Mental Health Foundation (Gorffennaf 2021). Mind Over Mirror: Young people’s experiences of body image issues and their ideas for policy solutions.
- Adroddiad Ymchwiliad Pwyllgor Menywod a Chydraddoldebau’r Tŷ Cyffredin: Changing the perfect picture – an inquiry into body image. 9 Ebrill 2021. Sylwer: Mae’r adroddiad hwn yn sôn am y Sefydliad wyth o weithiau yn y testun ac mae’n mynd ati ddwywaith i ddyfynnu ein hymchwil ar apiau golygu delweddau.
- Tystiolaeth ysgrifenedig gan Mental Health Foundation ar gyfer Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin i effaith delwedd corff ar iechyd corfforol a meddyliol. Chwefror 2022.
- Adroddiad Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin i effaith delwedd corff ar iechyd corfforol a meddyliol. 2 Awst 2022.