Iechyd meddwl ceiswyr lloches a ffoaduriaid: safbwynt y polisi

Deall y newidiadau y mae eu hangen i wella iechyd meddwl ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn y DU.

Mae’r crynodeb byr hwn o’r polisi yn rhan o gyfres sy’n nodi’r prif newidiadau y mae angen eu rhoi ar waith i wella iechyd meddwl yn y DU. 

Mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid mewn perygl mawr o ddioddef iechyd meddwl gwael. Mae’r profiadau a gawsant cyn ac ar ôl cyrraedd y DU yn cynyddu’r perygl y byddant yn dioddef problemau iechyd meddwl. Rydym yn mynd i’r afael â’r newidiadau y mae’n rhaid i’r llywodraeth eu cyflwyno i wella iechyd meddwl ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn y DU. 

Cynnwys 

Cyd-destun y polisi

Mae’r profiadau a gafodd ceiswyr lloches a ffoaduriaid cyn ac ar ôl mudo yn dylanwadu ar eu hiechyd meddwl. 

Efallai fod y profiadau a gawsant cyn mudo yn cynnwys artaith, rhyfel, carchar, ymosodiad corfforol, ymosodiad rhywiol, colli bywoliaeth, a cholli teulu a chyfeillion agos.1 Hefyd, efallai eu bod wedi dioddef trawma yn ystod eu siwrnai i’r DU – siwrnai a all fod yn faith ac yn beryglus yn aml. 

Gall yr amodau cymdeithasol ac economaidd a ddaw i’w rhan ar ôl mudo gael dylanwad yr un mor bwerus ar eu hiechyd meddwl. Gall tlodi, diweithdra, diffyg tai digonol, ynysigrwydd cymdeithasol, unigrwydd, stigma a gwahaniaethu arwain at iechyd meddwl gwael,2 ac mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn wynebu perygl uwch y byddant yn dioddef pob un o’r anghydraddoldebau hyn. 

Yn y DU, mae’r modd y mae’r gwahanol lywodraethau cenedlaethol yn ystyried ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn amrywio’n fawr. Yn Lloegr, ni cheir unrhyw strategaeth dan arweiniad y llywodraeth ar gyfer cynorthwyo ceiswyr lloches i integreiddio. Mae polisïau yng Nghymru a’r Alban yn anelu at gynorthwyo ceiswyr lloches a ffoaduriaid i integreiddio mewn cymunedau o’r diwrnod cyntaf.3,4 Yn 2019, datganodd Llywodraeth Cymru mai Cymru fyddai’r ‘Genedl Noddfa’ gyntaf yn y byd a chyhoeddwyd cynllun a gymeradwywyd gan y Cenhedloedd Unedig.5 Yng Ngogledd Iwerddon, ni cheir unrhyw strategaeth swyddogol gan y llywodraeth ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Er bod Strategaeth Ffoaduriaid ddrafft wedi’i chyhoeddi yn 2021 ar gyfer ymgynghori yn ei chylch, nid oes unrhyw gamau wedi’u rhoi ar waith.6 

Elfen bwysig o bolisi mewnfudo’r DU yw’r hyn a elwir yn bolisi ‘amgylchedd gelyniaethus’. Cyflwynodd llywodraeth y DU fesurau i leihau nifer y mewnfudwyr a oedd heb hawl i aros trwy gyfrwng Deddfau Mewnfudo 2014 a 2016. Mae system lymach ar gyfer ceiswyr lloches yn parhau i gael ei hategu gan Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 a Deddf Mudo Anghyfreithlon 2023. 

Egwyddorion ar gyfer symud tuag at system sy’n iachach yn feddyliol

Er mwyn gwella iechyd meddwl ceiswyr lloches a ffoaduriaid, rydym angen dull sy’n ystyriol o drawma ac sy’n canolbwyntio ar unigolion wrth brosesu ceisiadau am loches, tai, addysg, a’r ddarpariaeth iechyd a gofal a gânt.  Rhaid cyflwyno hyn ledled holl adrannau’r llywodraeth. 

Byddai’r dull hwn yn gwrthgyferbynnu â’r dull cyfredol sy’n mynd ati i herio iechyd meddwl ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Bydd newidiadau allweddol – fel eu rhoi dan gadwad dim ond pan fetho popeth arall a rhoi diweddariadau rheolaidd iddynt am eu cais – yn hollbwysig o ran diogelu eu hiechyd meddwl, gan sicrhau hefyd na fydd y system loches yn aildrawmateiddio unigolion nac yn creu trawma newydd. 

Mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid wedi cyfrannu’n fawr at economi, diwylliant a chymdeithas Prydain, ac maent yn parhau i wneud hynny. Dengys y dystiolaeth yn glir fod pobl yn awyddus i ddefnyddio’u sgiliau a chael cyfle i gyfrannu at ein heconomi wrth iddynt ailadeiladu eu bywydau yn y DU.7 

Rydym angen seilwaith a all ddiwallu anghenion y darpar aelodau newydd hyn o’n cymunedau. Os methwn yn hyn o beth, bydd costau’r GIG yn cynyddu ac mae’n bosibl y bydd ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu caethiwo mewn cylch yn llawn iechyd meddwl gwael, tlodi a gwahaniaethu. 

Argymhellion polisi

Mae’r adran hon yn cynnwys detholiad o argymhellion polisi hollbwysig sy’n deillio o’n hadroddiad The Mental Health of Asylum Seekers and Refugees in the UK. Yn yr adroddiad, nodir rhagor o fanylion a meysydd polisi ychwanegol lle mae angen cyflwyno newidiadau. 

Rhaid i ystyriaethau iechyd meddwl lywio’r gwaith o ddatblygu polisïau 

  • Rhaid i’r llywodraeth Lafur bresennol gyflawni’r ymrwymiad diweddar a wnaed gan y llywodraeth flaenorol yn adroddiad interim ei Strategaeth Prif Gyflyrau (sy’n ymdrin â Lloegr) er mwyn datblygu adnodd ar gyfer asesu’r effaith ar iechyd a llesiant. Bydd hyn yn helpu llunwyr polisïau i ystyried yr effaith a gaiff eu polisïau ar iechyd meddwl a llesiant. Dylid ystyried yn llwyr yr effaith debygol ar geiswyr lloches a ffoaduriaid, a dylid defnyddio’r ystyriaethau hyn wrth ddatblygu polisïau a deddfwriaethau mewnfudo. 
  • Dylai’r gweinyddiaethau datganoledig lunio adnodd tebyg a’i ddefnyddio i sicrhau bod mentrau polisi newydd yn ategu iechyd meddwl a llesiant eu poblogaethau, yn cynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid. 

Hyrwyddo integreiddio, ategu llesiant a lleihau gelyniaeth a gwahaniaethu 

  • Dylai llywodraeth y DU lunio strategaeth glir ar gyfer integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan weithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig, awdurdodau lleol, y sector gwirfoddol a phobl â phrofiad o geisio lloches.
  • Dylai llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig fuddsoddi mewn mentrau cymunedol a rhaglenni cefnogi cymheiriaid ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid, yn cynnwys cynlluniau gwirfoddoli. 

Dull sy’n ystyriol o drawma 

  • Dylai’r system loches, ynghyd ag asiantaethau mewnfudo Swyddfa Gartref y DU a gweithlu ehangach y sector cyhoeddus, sicrhau eu bod yn ystyriol o drawma
  • Ni ddylai ceiswyr lloches orfod adrodd i swyddogion mewnfudo yn amlach na’r angen. 
  • Dim ond pan fetho popeth arall y dylid eu rhoi dan gadwad, a hynny am gyfnod mor fyr â phosibl. Ni ddylid byth bythoedd roi menywod beichiog na phlant dan gadwad. 
  • Dylai ceiswyr lloches â chyflyrau iechyd (yn cynnwys cyflyrau iechyd meddwl) gael triniaeth briodol yn syth. 

Lleihau straenachoswyr ariannol a straenachoswyr sy’n gysylltiedig â thai 

  • Rhaid i lywodraeth y DU gymryd camau i leihau straenachoswyr ariannol a straenachoswyr sy’n gysylltiedig â thai a all ddod i ran ceiswyr lloches a ffoaduriaid. 
  • Rhaid i lywodraeth y DU sicrhau bod y cymorth ariannol sydd ar gael i geiswyr lloches a ffoaduriaid yn cyd-fynd â chostau byw. 
  • Rhaid i lywodraeth y DU roi’r gorau i’r polisi Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus ar gyfer ceiswyr lloches. 
  • Dylai llywodraeth y DU sicrhau ansawdd gwestai a mathau eraill o lety byrdymor, gan fyrhau’r amser y cedwir ceiswyr lloches ynddynt a chan sicrhau na chaiff pobl eu symud sawl gwaith o un lleoliad lloches i’r llall. 

Cyflogaeth 

  • Dylai llywodraeth y DU roi hawl i weithio yn syth i geiswyr lloches os ydynt wedi bod yn disgwyl mwy na chwe mis am benderfyniad ynglŷn â’u cais. 
  • Dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau, Cyfarwyddiaeth y Strategaeth Economaidd a Gwaith Teg yn yr Alban, ac Adran yr Economi yng Nghymru a Gogledd Iwerddon sicrhau bod yr holl staff sy’n gweithio yng ngwasanaethau cyflogaeth y llywodraeth yn meddu ar wybodaeth bwrpasol am y math o gymorth cyflogaeth sydd ar gael i ffoaduriaid, gan sicrhau bod cyfieithwyr mewn amryfal ieithoedd ar gael mewn canolfannau swyddi. 

Addysg 

  • Dylai llywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig, awdurdodau lleol ac ysgolion leihau’r rhwystrau a all atal ceiswyr lloches a ffoaduriaid rhag cael gafael ar addysg a ffynnu mewn addysg. Dylent wneud hyn trwy symleiddio’r broses ymgeisio am addysg ar gyfer teuluoedd ffoaduriaid a cheiswyr lloches. 
  • Dylai llywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig, awdurdodau lleol ac ysgolion leihau’r rhwystrau a all atal ceiswyr lloches a ffoaduriaid rhag cael gafael ar addysg a ffynnu mewn addysg trwy sicrhau bod hyfforddiant ar gyfer athrawon ac arweinwyr iechyd meddwl mewn ysgolion yn sôn yn benodol am gynorthwyo plant sy’n ffoaduriaid ac sy’n ceisio lloches. 

Rhaglenni iechyd meddwl ataliol a gofal iechyd 

  • Dylai llywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig, y GIG a darparwyr iechyd eraill leihau’r rhwystrau a all atal ceiswyr lloches a ffoaduriaid rhag cael gafael ar y gwasanaethau a’r gofal iechyd sy’n eu cynorthwyo i fyw’n dda. Dylid mynd ati’n rhagweithiol i dargedu ymyriadau ataliol at geiswyr lloches a ffoaduriaid. Bydd hyn yn cynnwys cynorthwyo ac ariannu grwpiau cymunedol ffoaduriaid a cheiswyr lloches – yn aml, y grwpiau hyn sydd yn y sefyllfa orau i gyflwyno ymyriadau o’r fath. 

Hwyluso ceiswyr lloches a ffoaduriaid i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus 

  • Dylai llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig, ynghyd â meiri metro yn Lloegr a chanddynt bwerau dirprwyedig mewn perthynas â pholisïau trafnidiaeth, alluogi ceiswyr lloches i deithio’n rhad ac am ddim ar fysiau. Dylai Llywodraeth yr Alban wireddu ei haddewid i adael i geiswyr lloches deithio’n rhad ac am ddim ar fysiau, a dylai hynny barhau y tu hwnt i 2025. 
  • Dylai llywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig, awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus (yn cynnwys addysg, gofal iechyd, gwasanaethau cyflogaeth a gwasanaethau cyfreithiol) sicrhau bod mwy o gyfieithwyr medrus ar gael, a dylent sicrhau bod eu hadnoddau ar-lein a’u hadnoddau printiedig ar gael yn rhwydd. 

Atal Hunanladdiad 

  • Rhaid i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig wireddu eu hymrwymiad i wella data a thystiolaeth yn ymwneud ag achosion o hunanladdiad ymhlith ffoaduriaid a cheiswyr lloches, fel cam cyntaf ar gyfer datblygu ‘dull iechyd y cyhoedd’ gogyfer mynd i’r afael â’r mater. 
  • Dylai Systemau Gofal Integredig a systemau iechyd a gofal eraill yng ngwledydd y DU roi ‘dull iechyd meddwl y cyhoedd’ ar waith ar gyfer atal hunanladdiad, gan bennu’r elfennau sy’n ysgogi hunanladdiad ymhlith y grwpiau hyn a chan fynd i’r afael â’r elfennau hynny. 

Cyhoeddwyd: Hydref 2024 / I’w adolygu: Ebrill 2025 

  1. Refugee Health Technical Assistance Center. (n.d.). Traumatic Experiences of Refugees. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2023 o https://www.refugeehealthta.org/physical-mental-health/mental-health/adult-mental-health/traumatic-experiences-of-refugees/
  2. Mental Health Foundation. (2020). Tackling social inequalities to reduce mental health problems: How everyone can flourish equally. https://www.mentalhealth.org.uk/sites/default/files/2022-04/MHF-tackling-inequalities-report.pdf
  3. Llywodraeth Cymru. (2019). Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches. https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-03/cenedl-noddfa-cynllun-ffoaduriaid-a-cheiswyr-lloches_1.pdf
  4. Llywodraeth yr Alban. (2018). New Scots Refugee Integration Strategy 2018 - 2022. https://www.gov.scot/binaries/content/documents/govscot/publications/strategy-plan/2018/01/new-scots-refugee-integration-strategy-2018-2022/documents/00530097-pdf/00530097-pdf/govscot%3Adocument/00530097.pdf
  5. Llywodraeth Cymru, Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches, 2019, Ar gael ar: https://www.gov.wales/refugee-and-asylum-seeker-plan-nation-sanctuary
  6. The Executive Office. (2021). Draft Refugee Integration Strategy . https://www.executiveoffice-ni.gov.uk/consultations/draft-refugee-integration-strategy
  7. Cynhaliwyd yr arolwg gan Survation ymhlith 1,006 o arweinwyr busnes yn y DU ar ran Refugee Action a’r gynghrair Lift The Ban rhwng Ebrill a Mai 2019, fe’i cyhoeddwyd ym mis Awst 2019, Ar gael ar: https://www.survation.com/majority-67-of-british-business-leaders-surveyed-agree-that-people-seeking-asylum-should-be-able-to-work-after-waiting-6-months-for-a-decision/