Mae’r crynodeb byr hwn o’r polisi yn rhan o gyfres sy’n nodi’r prif newidiadau y mae angen eu rhoi ar waith i wella iechyd meddwl. Mae’n defnyddio ymchwil a gwaith dadansoddi’r Sefydliad Iechyd Meddwl – gweler yr adran ‘deunyddiau darllen pellach’.
Mae mynediad at natur yn hanfodol i ddiogelu iechyd meddwl y genedl
Gall ein perthynas â natur fod yn ffactor hollbwysig o ran ategu iechyd meddwl da. Dengys tystiolaeth pa mor bwysig yw ‘ymgysylltu â natur’ – sef y modd rydym yn ymwneud â natur ac yn profi natur. Mae cysylltiad cryf â natur yn esgor ar ymdeimlad o berthynas agos neu gysylltiad emosiynol â’n hamgylchoedd naturiol.[1],[2] Derbynnir yn rhyngwladol bod ymgysylltiad â natur yn ffordd o fesur pa mor agos yw perthynas unigolion gyda natur, ac mae’n sail i astudiaethau gwyddonol. Yn hollbwysig, mae modd gwella’r berthynas hon er budd iechyd meddwl pobl.[3]
Mae sylwi ar natur yn elfen hollbwysig o hyn. Gall gweithgareddau sy’n defnyddio’r synhwyrau helpu i ddatblygu ein cysylltiad â byd natur, yn ogystal â gweithgareddau sy’n gwneud inni deimlo tosturi, amgyffred natur neu ddod o hyd i ystyr mewn natur.[4] Mae enghreifftiau’n cynnwys gwrando ar adar yn canu, cyffwrdd rhisgl coed, arogli blodau neu deimlo’r pridd rhwng ein bysedd tra’n gweithio yn yr ardd.
Fodd bynnag, ni chaiff y manteision hyn eu dosbarthu’n gyfartal trwy’r gymdeithas. Gall anghydraddoldebau mewn statws economaidd-gymdeithasol gyfuno ag anghydraddoldebau’n ymwneud â phrofiad o natur a mynediad at natur sy’n ymwneud â hil, anabledd, oedran a rhywedd. Gall hyn oll amrywio rhwng ardaloedd yng nghanol dinasoedd, ardaloedd maestrefol ac ardaloedd gwledig.
Er enghraifft, mae gan bobl sy’n byw yn wardiau cyfoethocaf Lloegr (sef yn yr 20% cyfoethocaf) bum gwaith yn fwy o barciau a mannau gwyrdd cyffredinol o gymharu â’r wardiau mwyaf amddifad (sef y 10% mwyaf amddifad).[5] Yn ôl adroddiad People in the Outdoors Monitor for Northern Ireland (POMNI), nid yw 8% o’r boblogaeth erioed wedi treulio amser hamdden yn yr awyr agored. Mae’r grwpiau sy’n llai tebygol o fynd i’r awyr agored yn cynnwys pobl ddi-waith, pobl ag anabledd neu salwch hirdymor a phobl hŷn. Hefyd, mae menywod yn llai tebygol na dynion o fynd i’r awyr agored unwaith yr wythnos.[6]
Er mwyn helpu i gynnal llesiant a gwytnwch y boblogaeth, rydym angen ethos a all hwyluso pawb i barhau i ymweld yn rheolaidd â natur mewn mannau mwy amrywiol. Ceir cysylltiad annatod rhwng llesiant natur a llesiant pobl: dylai llesiant meddwl gwell i bawb fod yn ganolog i bolisïau amgylcheddol sy’n effeithio ar fyd natur.
Natur ac iechyd meddwl: y dystiolaeth
Y manteision a ddaw i ran iechyd meddwl yn sgil natur
Mae pobl sy’n teimlo ymgysylltiad cryf â natur yn aml yn hapusach yn eu bywydau, maent yn teimlo bod eu bywydau’n fwy gwerth chweil ac maent yn dioddef llai o iselder a gorbryder.[7],[8] Yn ôl y dystiolaeth, yn hytrach na chanolbwyntio ar annog pobl i ymweld â mannau naturiol (ac anghysbell, o dro i dro), dylem ganolbwyntio ar y modd y gall pobl uniaethu a chysylltu â natur ‘bob dydd’ yn nes at eu cartrefi, trwy wneud gweithgareddau syml. Yn ôl gwaith ymchwil, dywedodd pobl eu bod, yn ystod y pandemig, wedi sylwi mwy ar natur bob dydd ac ymhél â natur bob dydd i raddau helaethach,[9] a bod y newidiadau hyn yn eu perthynas â natur wedi cyfrannu at eu llesiant – yn enwedig o ran teimlo bod bywyd yn werth chwil.[10]
Mae dod i gysylltiad â natur yn gallu esgor ar emosiynau cadarnhaol a chydbwyso ein hwyliau, gan arwain at wella ein gwytnwch.[11] Mae peth tystiolaeth yn awgrymu bod amrywiaeth oddi mewn i natur (neu ‘fioamrywiaeth’, fel y’i gelwir) yn bwysig er mwyn cynyddu’r manteision a ddaw i ran iechyd meddwl. Mae bioamrywiaeth ar ffurf toreth o rywogaethau adar, ynghyd â thoreth o rywogaethau planhigion, amrywiaeth o ran cynefinoedd a thoreth o rywogaethau gloÿnnod byw, i gyd yn gysylltiedig â llesiant gwell,[12] hwyliau gwell a lefelau gorbryder is.[13] Hefyd, mae natur drefol yn gallu gwella llesiant, er enghraifft planhigion blodeuol, dŵr, bywyd gwyllt trefol a choed,[14] a gall natur drefol doreithiog a bioamrywiol fod yn ddewis amgen da yn lle natur wyllt.[15]
Mae data arall yn dangos bod mannau ‘llonydd’ (mannau digynnwrf neu dawel; yn aml, coedwigoedd â gwahanol fathau o goed, neu gerllaw dŵr) yn cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd meddwl,[16] a bod ardaloedd mawr lle ceir llawer o lystyfiant a thoreth o adar yn gysylltiedig â lefelau iselder, gorbryder a straen is.[17]
Mae gwell glanweithdra mewn mannau gwyrdd trefol yn gysylltiedig â chyfraddau iselder is, gan awgrymu y gall glanweithdra fod yn bwysicach na maint y man gwyrdd a’i ansawdd cyffredinol. Mae enghreifftiau o fannau gwyrdd o’r radd flaenaf yn cynnwys: mannau ag arwyddion; mannau lle ceir cyfleusterau fel biniau, seddi a thoiledau; mannau lle ceir llwybrau a gaiff eu cynnal a’u cadw; mannau diogel; a mannau lle caiff planhigion eu plannu a’u rheoli.[18]
Ceir cysylltiad rhwng ymyriadau gofal gwyrdd – megis garddwriaeth gymdeithasol a therapiwtig, ffermio gofal a chadwraeth amgylcheddol – a lleihad mewn symptomau iselder, gorbryder a straen. Mae pobl sy’n cymryd rhan mewn ymyriadau o’r fath yn elwa ar gynhwysiant a chyswllt cymdeithasol, yn ogystal ag ymdeimlad o berthyn a chyflawniad personol – sef elfennau sy’n dda i iechyd meddwl.[19]
Mae pobl ifanc (11-15 oed) sydd o’r farn bod cysylltiad â natur yn bwysig yn mwynhau llesiant seicolegol gwell na phobl ifanc nad ydynt yn coleddu’r un farn.[20],[21] Yn achos plant hŷn, gwelir bod addysg y tu allan i’r ystafell ddosbarth yn hyrwyddo llesiant cymdeithasol, yn enwedig yn achos disgyblion â statws economaidd-gymdeithasol is a phan ddefnyddir nifer llai o sesiynau hwy.[22]
Ceir cysylltiadau rhwng gwyrdd-ddail mewn lleoliadau gofal preswyl a rhai agweddau ar lesiant meddwl y preswylwyr (er enghraifft, ansawdd bywyd ac iselder). Mae’r cysylltiadau cryfaf i’w cael pan fo pobl yn defnyddio gerddi, ond mae presenoldeb gerddi a phlanhigion dan do/awyr agored yn unig yn gallu bod yn fuddiol.[23] Yn achos cleifion mewn lleoliadau gofal iechyd a elwodd ar weld natur trwy eu ffenestr, fe ddywedasant fod eu hiechyd corfforol a meddyliol wedi gwella yn ystod eu harhosiad. [24]
Anghydraddoldebau o ran mynediad at fannau gwyrdd a phrofiad o fannau gwyrdd
Yn ystod cyfnod clo cyntaf y pandemig COVID-19, nid oedd gan un o bob wyth aelwyd ym Mhrydain Fawr (12%) fynediad at ardd breifat neu ardd a rennir; roedd y ffigur yn un o bob pum aelwyd (21%) yn Llundain. Yn Lloegr, roedd pobl Ddu bron bedair gwaith yn fwy tebygol na phobl Wyn o fethu â chael mynediad at fannau awyr agored yn y cartref, boed yn ardd breifat, yn ardd a rennir, yn batio neu’n falconi (37% o gymharu â 10%).
Roedd oddeutu tri chwarter trigolion Gogledd Iwerddon yn cytuno bod ansawdd eu mannau gwyrdd lleol yn ddigon da i beri iddynt fod eisiau treulio amser ynddynt (76%), ond roedd oddeutu chwarter y trigolion yn anghytuno â hyn. Drachefn, mae’r data’n tynnu sylw at anghydraddoldebau – roedd yr anfodlonrwydd â llwybrau a mannau gwyrdd lleol ar ei isaf ymhlith menywod, pobl ddi-waith, pobl anabl a phobl a oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig (ni ddylid tybio bod byw mewn ardal wledig yn galluogi pobl i gael mynediad awtomatig at fannau gwyrdd hygyrch o’r radd flaenaf).[26]
Gall parciau trefol fod yn llai hygyrch i rai grwpiau, yn cynnwys pobl mewn cymunedau amddifad, menywod a phobl LHDTCRh+. Mae’r rhesymau’n cynnwys: pellter at barciau, diffyg profiadau cerdded dymunol, dim digon o barciau yn y gymdogaeth, diffyg gweithgareddau diwylliannol a/neu weithgareddau ar y cyd, pryderon o ran diogelwch a diffyg amser hamdden. O dro i dro, efallai fod byw yn agos at barciau a mannau gwyrdd yn cael ei wrthbwyso gan ansawdd, amrywiaeth a maint y mannau gwyrdd neu gan nodweddion personol-gymdeithasol yn cynnwys oedran, incwm, diogelwch a phryderon diwylliannol.[27]
Ffyrdd o ymgysylltu â natur
Dengys ymchwil fod yna bum ‘ffordd ymgysylltu â natur’ lle caiff cysylltiad pobl â natur ei danio trwy gyfrwng y canlynol:
- y synhwyrau;
- emosiwn:
- gwerthfawrogi harddwch;
- archwilio a dathlu’r ystyr a rydd natur i fywyd;
- cymryd camau tosturiol i helpu a gwarchod byd natur.
Mae gwybod am y pum ffordd hyn o feithrin perthynas agosach gyda natur yn gallu ein helpu i lunio dewisiadau dylunio ynglŷn â mannau awyr agored a datblygu rhaglenni i helpu i ategu ein hiechyd meddwl.[28]
Ategu iechyd meddwl pobl trwy gyfrwng natur: egwyddorion craidd
- Dylai polisïau roi’r gorau i fesur faint o amser a dreulir gan bobl ym myd natur a dechrau canolbwyntio ar y pum ffordd a all wella ymgysylltiad pobl â natur (gweler yr adran uchod).
- Dylai mannau gwyrdd sydd wedi eu haddasu neu eu cynllunio’n dda fod yn adnodd cyffredinol, rhad ac am ddim er budd pobl o bob cefndir. Rhaid i fannau naturiol fod yn hygyrch i bawb a dylent fod yn gynhwysol i bobl sy’n cael anawsterau i gyrchu a defnyddio mannau o’r fath oherwydd anghydraddoldebau cymdeithasol, anghydraddoldebau economaidd ac anghydraddoldebau iechyd.
- Dylai polisïau hwyluso’r cysylltiad rhwng natur a phawb yn y mannau y maent yn byw ynddynt – mewn amgylcheddau trefol, maestrefol a gwledig – ac yn y mannau lle maent yn treulio amser yn rheolaidd, yn cynnwys cymdogaethau, gweithleoedd, ysgolion a lleoliadau iechyd a gofal.
- Rhaid i ddulliau dylunio trefol a’r system gynllunio wella amlygrwydd ac argaeledd natur ym mhob ardal leol.
- Rhywbeth a ddylai fod yn ganolog i bolisïau sy’n effeithio ar yr amgylchedd naturiol yw gallu pobl i gysylltu â natur o’r radd flaenaf er budd eu hiechyd meddwl.
- Mae’n bwysig inni ddiogelu’r amgylchedd naturiol ac adfer bioamrywiaeth, er budd byd natur ac iechyd meddwl pobl.
Gwella ymgysylltiad pobl â natur: argymhellion ar gyfer y llywodraeth genedlaethol a llywodraethau lleol
Rhaid i’r llywodraeth genedlaethol a llywodraethau lleol anelu at wella ymgysylltiad pobl â natur, fel a ganlyn:
Rhaid i bolisïau sy’n effeithio ar iechyd meddwl a natur hyrwyddo ymgysylltiad â natur. Dylid asesu’r llwyddiant ar sail y cysylltiad rhwng pobl a natur yn hytrach na mesur faint o amser a dreulir yng nghanol byd natur neu gyfrif faint o bobl sy’n ymweld â natur.
Rhaid i lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig osod targedau interim a thargedau canlyniadau uchelgeisiol er mwyn rhoi stop ar ddirywiad rhywogaethau a chynefinoedd yn y DU erbyn 2030, yn unol ag ymrwymiad y llywodraeth fel aelod o’r ‘High Ambition Coalition for Nature and People’ sy’n anelu at roi stop ar golledion bioamrywiaeth erbyn 2030. Dylai cynlluniau cyflawni roi blaenoriaeth i gynyddu bioamrywiaeth mewn ardaloedd amddifad er mwyn galluogi’r cymunedau sydd yn yr angen mwyaf i elwa ar natur. Dylai’r cynlluniau hynny feithrin ymdrechion ar lefelau datganoledig ac adeiladu ar strategaethau cyfredol y gweinyddiaethau datganoledig, yn cynnwys ‘Biodiversity Strategy to 2045’ yn yr Alban a’r Cynllun Gweithredu Adfer Natur yng Nghymru.
Dylai adrannau perthnasol y llywodraeth fynd ati ar y cyd i fabwysiadu dull ‘natur i bawb’, gan bennu llwybr clir ar gyfer mynediad teg at natur ledled y DU. Dylai’r dull hwn gynnwys y canlynol:
sicrhau bod mynediad cyfartal at fannau naturiol llewyrchus yn ffordd hollbwysig o fesur llwyddiant ar draws mentrau perthnasol y llywodraeth, yn enwedig y mentrau hynny sy’n anelu at leihau anghydraddoldebau.
pennu dyletswyddau cyfreithiol (trwy gyfrwng deddfwriaeth) ar gyfer datblygwyr a chyrff cyhoeddus mewn perthynas â darparu mynediad cyfartal at fannau gwyrdd a glas cyfoethog eu natur, i bawb.
darparu cyllid ar gyfer mannau cyfoethog eu natur, sy’n hygyrch yn lleol.
Dylid gwarantu mynediad at natur trwy ddefnyddio egwyddorion ‘Dylunio Cyffredinol’i ar gyfer parciau a meysydd chwarae er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch i amrywiaeth mor eang â phosibl o bobl, yn cynnwys pobl ag anableddau o bob math, pobl ag anghenion mynediad a phobl o bob oedran. Dylai awdurdodau lleol sicrhau y ceir goleuadau da mewn parciau a bod patrolau’n cael eu cynnal, a dylent weithio gyda grwpiau cymunedol lleol a’r heddlu i sicrhau y gall pawb fwynhau mannau gwyrdd cyhoeddus, heb ofni y byddant yn dioddef aflonyddwch, aflonyddwch rhywiol, trais na gwahaniaethu.
[i] Mae Dylunio Cyffredinol yn golygu’r modd yr eir ati i ddylunio a phennu cyfansoddiad rhyw amgylchedd arbennig er mwyn sicrhau y bydd modd i gynifer o bobl â phosib gyrchu, deall a defnyddio’r amgylchedd dan sylw, ni waeth be fo’u hoedran, eu maint, eu gallu na’u hanabledd. Gweler Centre for Excellence in Universal Design.
Dylai’r Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol yn Lloegr fynd y tu hwnt i warchod a chyfoethogi’r amgylchedd naturiol presennol, gan ymgorffori natur newydd ac amlwg ym mhob cynllun datblygu er mwyn mynd ati’n unswydd i ategu iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth.
Dylai awdurdodau lleol ddwyn ynghyd arbenigwyr iechyd y cyhoedd, cynllunwyr, partneriaethau natur lleol a phartneriaid eraill er mwyn sicrhau bod polisïau a chynlluniau lleol yn gweithio tuag at nod cyffredin, sef datblygu’r amgylchedd naturiol (boed yn amgylchedd trefol neu’n amgylchedd o fath arall) mewn modd a fydd yn ategu cysylltiad pobl â natur. Dylai cynllunwyr a dylunwyr trefol roi mwy o amlygrwydd i natur mewn amgylcheddau lleol, yn cynnwys mannau oedi a gorffwyso fel safleoedd bysiau. Mae hyn yn cynnwys cynllunio adeiladau ysbytai a lleoliadau gofal preswyl.
Dylai llywodraethau cenedlaethol roi dull ‘cymesur gyffredinol’ ii ar waith wrth gysylltu plant â natur, gan gydbwyso dulliau cyffredinol gydag ymyriadau mwy penodol er budd plant a chanddynt lai o fynediad at natur yn y mannau y maent yn byw ynddynt.
Dylai’r Adran Addysg yn Lloegr, ynghyd ag awdurdodau addysg datganoledig, adolygu faint o fannau gwyrdd a sut fathau o fannau gwyrdd sydd ar gael mewn ysgolion uwchradd, gan ddatblygu cynllun ar gyfer cynyddu natur yn yr ysgolion hynny lle ceir diffyg mannau naturiol ar hyn o bryd.
Gan fod pobl ifanc yn eu harddegau’n tueddu i golli rhywfaint o ddiddordeb mewn natur, ynghyd â cholli cysylltiad â natur[30], dylai natur fod yn rhan o’r broses ddysgu, a dylai dosbarthiadau gynnwys gweithgareddau awyr agored sy’n ategu ffyrdd o ddysgu pynciau’r cwricwlwm. Dylai ystadau ysgolion flaenoriaethu a gwarchod ardaloedd gwyllt ac ardaloedd gwyrdd at ddibenion o’r fath, a dylid cynllunio ysgolion newydd gyda natur mewn cof. Mae rhaglenni Eco-Ysgolion Gogledd Iwerddon a’r DU yn cynnwys canllawiau defnyddiol yn ymwneud â meithrin ymwybyddiaeth amgylcheddol mewn ysgolion.
[ii] Mewn dull ‘cymesur gyffredinol’, rhaid i’r camau a gymerir fod yn gyffredinol, ond dylent fod ar raddfa sy’n gymesur â lefel yr anfantais – rhywbeth a elwir yn ‘gyffredinoliaeth gymesur’. Gweler fair-society-healthy-lives-full-report-pdf.pdf (instituteofhealthequity.org).
Dylai llywodraethau rhanbarthol a lleol fynd i’r afael â rhwystrau sy’n atal yr arfer o weithredu rhaglenni presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd trwy wneud y canlynol:
canolbwyntio ar gymdogaethau lleol a blaenoriaethau lleol, gan greu fforymau lleol i hwyluso cyfathrebu ymhlith presgripsiynwyr cymdeithasol, darparwyr gweithgareddau natur a thrigolion lleol
ategu’r ‘Ecosystem’ presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd trwy gydgynhyrchu amrywiaeth eang o weithgareddau natur, er mwyn i bobl gael llu o opsiynau ar gyfer dechrau ymgysylltu a pharhau i ymgysylltu
comisiynu mewn modd a fydd yn canolbwyntio ar amrywiaeth, cynhwysiant a hygyrchedd: rhoi cyllid a chymorth penodol i grwpiau amrywiaeth er mwyn sicrhau bod yr arlwy presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol briodol i’r trigolion, ynghyd â sicrhau y gellir diwallu anghenion mynediad. [31]
[1] Richardson, Miles, Passmore, H.-A., Lumber, R., Thomas, R., a Hunt, A. (2021). Moments, not minutes: The nature-wellbeing relationship. International Journal of Wellbeing, 11(1), 8–33. https://doi.org/10.5502/ijw.v11i1.1267
[2] Richardson, Miles, Hallam, J., a Lumber, R. (2015). One thousand good things in nature: Aspects of nearby nature associated with improved connection to nature. Environmental Values, 24(5), 603–619.
[3] Yr Athro Miles Richardson yn sôn am ymgysylltu â natur er mwyn creu perthynas newydd gyda natur: Y Sefydliad Iechyd Meddwl (2021). Nature: How connecting with nature benefits our mental health , tt 14-15.
[4] Bratman, G. N., Anderson, C. B., Berman, M. G., Cochran, B., de Vries, S., Flanders, J., Folke, C., Frumkin, H., Gross, J. J., Hartig, T., Kahn, P. H., Kuo, M., Lawler, J. J., Levin, P. S., Lindahl, T., Meyer-Lindenberg, A., Mitchell, R., Ouyang, Z., Roe, J., Daily, G. C. (2019). Nature and mental health: An ecosystem service perspective. Science Advances, 5(7).
[5] National Outdoors for All. Natural solutions for tackling health inequalities [Rhyngrwyd]. Adroddiad. Hydref 2014 [dyfynnwyd ar 21 Hydref 2023]. Ar gael ar: Natural Solutions to Tackling Health Inequalities - IHE (instituteofhealthequity.org)
[6] The People in the Outdoors Monitor for Northern Ireland (POMNI) (Mawrth 2022) https://www.outdoorrecreationni.com/wp-content/uploads/2022/03/POMNI-March-2022-Report.pdf
[7] Capaldi A., C. A., Dopko L., R. L., a Zelenski, J. M. (2014). The relationship between nature connectedness and happiness: A meta-analysis. Frontiers in Psychology, 5(Awst). Ar gael ar: https://doi. org/10.3389/fpsyg.2014.00976
[8] Richardson, Miles, Passmore, H.-A., Lumber, R., Thomas, R., a Hunt, A. (2021). Moments, not minutes: The nature-wellbeing relationship. International Journal of Wellbeing, 11(1), 8–33. https://doi.org/10.5502/ijw.v11i1.1267
[10] Richardson M, Hamlin I. (July 2021) Nature Engagement for Human and Nature’s Wellbeing during the Corona Pandemic. Journal of Public Mental Health 20(2):83-93 .
[11] Richardson, Miles, McEwan, K., Maratos, F., a Sheffield, D. (2016). Joy and Calm: How an Evolutionary Functional Model of Affect Regulation Informs Positive Emotions in Nature. Evolutionary Psychological Science, 2(4), 308–320.
[12] Aerts, R., Honnay, O., a Van Nieuwenhuyse, A. (2018). Biodiversity and human health: Mechanisms and evidence of the positive health effects of diversity in nature and green spaces. British Medical Bulletin, 127(1), 5–22. Ar gael ar: https://doi.org/10.1093/bmb/ldy021
[13] Wolf, L. J., Zu Ermgassen, S., Balmford, A., White, M., a Weinstein, N. (2017). Is variety the spice of life? An experimental investigation into the effects of species richness on self-reported mental well-being. PLoS ONE, 12(1). https://doi.org/10.1371/ journal.pone.0170225
[14] McEwan, K., Ferguson, F. J., Richardson, M., a Cameron, R. (2020). The good things in urban nature: A thematic framework for optimising urban planning for nature connectedness. Landscape and Urban Planning, 194, 103687. https://doi. org/10.1016/j.landurbplan.2019.103687
[15] Menardo E, Brondino M, Hall R, Pasini M. Restorativeness in Natural and Urban Environments: A Meta-Analysis. Psychol Rep [Rhyngrwyd]. 6 Ebrill 2019 [dyfynnwyd ar 21 Hydref 2023];124(2):417–37. Ar gael ar: Restorativeness in Natural and Urban Environments: A Meta-Analysis - PubMed (nih.gov)
[16] van den Bosch, M. A., Östergren, P. O., Grahn, P., Skärbäck, E., a Währborg, P. (2015). Moving to serene nature may prevent poor mental health— results from a Swedish longitudinal cohort study. International Journal of Environmental Research and Public Health, 12(7), 7974–7989. DOI: 10.3390/ijerph120707974
[17] Cox, D. T. C., Shanahan, D. F., Hudson, H. L., Plummer, K. E., Siriwardena, G. M., Fuller, R. A., Anderson, K., Hancock, S., a Gaston, K. J. (2017). Doses of neighborhood nature: The benefits for mental health of living with nature. In BioScience (Cyf. 67, Rhifyn 2, tt. 147–155). Gwasg Prifysgol Rhydychen. https://doi. org/10.1093/biosci/biw173
[18] Mears, M., Brindley, P., Jorgensen, A., a Maheswaran, R. (2020). Population-level linkages between urban greenspace and health inequality: The case for using multiple indicators of neighbourhood greenspace. Health and Place, 62 (Rhagfyr 2019), 102284. https://doi.org/10.1016/j. healthplace.2020.102284
[19] Bragg, R., Atkins, G. (2016). A review of nature-based interventions for mental health care. Adroddiadau a Gomisiynwyd gan Natural England, Rhif 204. Ar gael ar: A review of nature-based interventions for mental health care - NECR204 (naturalengland.org.uk)
[20] Capaldi A., C. A., Dopko L., R. L., a Zelenski, J. M. (2014). The relationship between nature connectedness and happiness: A meta-analysis. Frontiers in Psychology, 5(Awst). Ar gael ar: https://doi. org/10.3389/fpsyg.2014.00976
[21] Martin, L., White, M. P., Hunt, A., Richardson, M., Pahl, S., a Burt, J. (2020). Nature contact, nature connectedness and associations with health, wellbeing and pro-environmental behaviours. Journal of Environmental Psychology, 68 (Chwefror 2019), 101389. https://doi.org/10.1016/j.jenvp.2020.101389
[22] Bølling, M., Niclasen, J., Bentsen, P., a Nielsen, G. (2019). Association of Education Outside the Classroom and Pupils’ Psychosocial Well-Being: Results From a School Year Implementation. Journal of School Health, 89(3), 210–218. https://doi.org/10.1111/josh.12730
[23] Carver, A., Lorenzon, A., Veitch, J., Macleod, A., a Sugiyama, T. (2020). Is greenery associated with mental health among residents of aged care facilities? A systematic search and narrative review: Aging & Mental Health: Cyf 24, Rhif 1, 1-7
[24] Raanaas, R, Patil, GG, Hartig, T. (2012). Health benefits of a view of nature through the window: a quasi-experimental study of patients in a residential rehabilitation center. Clin Rehabil. Ion;26(1):21-32. doi: 10.1177/0269215511412800. Epub 2011 Aug 19
[25] Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (14 Mai, 2020) One in eight British households has no garden – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
[26] The People in the Outdoors Monitor for Northern Ireland (POMNI) (Mawrth 2022) https://www.outdoorrecreationni.com/wp-content/uploads/2022/03/POMNI-March-2022-Report.pdf
[27] Wang, D., Brown, G., a Liu, Y. (2015). The physical and nonphysical factors that influence perceived access to urban parks. Landscape and Urban Planning, 133, 53–66 . https://doi.org/10.1016/j.landurbplan.2014.09.007
[28] Gweler yr Athro Miles Richardson yn sôn am ymgysylltu â natur er mwyn creu perthynas newydd gyda natur: Y Sefydliad Iechyd Meddwl (2021). Nature: How connecting with nature benefits our mental health , tt 14-15.
[29] Wildlife and Countryside Link (21 Chwefror, 2022) “New campaign calls for a ‘legal right to local nature’ in Levelling Up reforms” .
[30] Richardson, Miles, Hunt, A., Hinds, J., Bragg, R., Fido, D., Petronzi, D., Barbett, L., Clitherow, T., a White, M. (2019). A measure of nature connectedness for children and adults: Validation, performance, and insights. Sustainability (Y Swistir), 11(12), 1–16. https://doi.org/10.3390/SU11123250.
[31] Y Sefydliad Iechyd Meddwl gyda chefnogaeth gan Faer Llundain (Plimpton, B.) (2023). Supporting and expanding green social prescribing to address mental health inequalities in London