Gyda dull Partner Dysgu, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddarganfod yr effaith y maent yn ei chael ar iechyd meddwl.
Yn aml, nid iechyd meddwl yw prif ffocws ein partneriaid, ond hoffent ddeall yr effaith y maent yn ei chael ar yr agenda llesiant.
Rydym wedi gweithio gyda llawer o wahanol bartneriaid i'w helpu i ganfod y gwahaniaeth maent yn ei wneud. Mae’r partneriaid hyn yn cynnwys:
- Chwaraeon Cymru
- Gwasanaethau Ieuenctid Gwynedd
- Heddlu De Cymru
- Cyngor Sir Fynwy
- Tata Steel
Featured reports
Uncertain times: Anxiety in the UK and how to tackle it
The economic case for investing in the prevention of mental health conditions in the UK
Building resilience in the fishing sector in Wales
Surviving or Thriving? The state of the UK's mental health
Prevention and mental health report
Tackling social inequalities to reduce mental health problems
Fundamental facts about mental health 2016
Relationships in the 21st century: the forgotten foundation of mental health and well-being
Nature: How connecting with nature benefits our mental health
Astudiaeth Achos:
Ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn gweithio gyda gwasanaeth heddlu mawr yng Nghymru, gan eu helpu i roi eu strategaeth iechyd meddwl ar waith.
Gan ddefnyddio offeryn llesiant, rydym yn eu helpu i asesu gweithgareddau dwy o’u hadrannau yn unol â’r offeryn hwn.
Gyda'n gilydd, rydym yn gofyn cwestiynau fel:
- Faint o reolaeth sydd gan unigolion, neu'r gymuned dros eu bywydau a'u penderfyniadau?
- Pa fath o wytnwch sy'n cael ei adeiladu trwy weithgareddau'r heddlu?
- A yw gwaith yr heddlu yn gwella cyfranogiad a chynhwysiant?
- Neu yn cyfrannu at benderfynyddion ehangach o ran iechyd?
Ar ddiwedd ein hasesiad (sy’n cymryd 8-12 mis), byddwn yn ysgrifennu adroddiad wedi’i deilwra i’w gwaith fel y gallant deimlo’n hyderus ynghylch effaith eu gweithgareddau ar iechyd meddwl.
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].