Cyflwr Cenhedlaeth: Atal Problemau Iechyd Meddwl ymhlith Plant a Phobl Ifanc

Graphic for State of a Generation reports

Gan fod y Sefydliad Iechyd Meddwl yn dathlu 70 mlynedd eleni ers ei sefydlu, rydym wedi comisiynu tri adroddiad gyda phob un yn ystyried cyfnod bywyd gwahanol a’r elfennau allweddol sy’n herio ac yn cynorthwyo iechyd meddwl yn ystod y cyfnodau hyn.

Dyma’r adroddiad cyntaf o blith y tri, ac mae’n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc. Bwriad yr adroddiad yw adolygu’r dystiolaeth ddiweddar a chynnig arweiniad i unrhyw un sy’n dymuno cael dealltwriaeth gyflym o ddull ataliol o ymdrin ag iechyd meddwl. Gall problemau iechyd meddwl, fel gorbryder neu iselder, ddigwydd unrhyw adeg mewn bywyd. Fodd bynnag, mae plentyndod a byd oedolion ifanc yn gyfnod arbennig o bwysig o ran datblygiad ac iechyd meddwl.

Trwy ddeall y pethau a all herio iechyd meddwl da, yn ogystal â’r pethau a all ei amddiffyn a’i hyrwyddo, gallwn gyflwyno polisïau a gwasanaethau sy’n cynorthwyo plant a phobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial, gan atal anawsterau iechyd meddwl rhag datblygu i’r graddau y gall fod yn anodd i’r plant a’r bobl ifanc ymdopi â nhw.

Gall profiadau bywyd cynnar plant a phobl ifanc, yr ardaloedd y maent yn byw ynddynt, y broses o archwilio a llywio trwy eu hunaniaeth, a’r pwysau a deimlant wrth adael yr ysgol a mentro i’r byd gwaith, arwain at risg i iechyd meddwl da. Mewn gwrthgyferbyniad, mae cael teuluoedd, cyfeillion a chymunedau cefnogol; y sgiliau i ddeall, rheoli a siarad am deimladau heriol; oedolion i droi atynt, sy’n deall sut y maent yn teimlo; a chymorth hygyrch ac effeithiol os bydd problemau’n dechrau mynd yn drech na nhw, yn elfennau allweddol a all hyrwyddo ac amddiffyn iechyd meddwl da, o blentyndod hyd at fyd oedolion ifanc a thu hwnt.

Ar sail gwaith ymchwil ac awgrymiadau’r Panel Cynghori Ieuenctid, er mwyn ategu iechyd meddwl da ac atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu, dylem wneud y canlynol:

  1. Darparu adnoddau i rieni a rhai sy’n rhoi gofal (rhaglenni rhianta, addysg, adnoddau cyflogaeth a thai) er mwyn eu helpu i fod yn ffynonellau cymorth cyson i’w plant.
  2. Sicrhau bod plant, fel rhan o’u haddysg, yn cael y sgiliau y maent eu hangen i ddeall, rheoli a siarad am eu teimladau heriol.
  3. Yng nghyswllt y cwricwlwm, gwaith ieuenctid a sefydliadau sy’n ymwneud â phobl ifanc, mynd ati i ymwreiddio’r arfer o addysgu sgiliau sy’n ategu iechyd meddwl da.
  4. Sicrhau bod cymorth cynnar effeithiol ar gael ar gyfer iechyd meddwl pobl ifanc, lle yr ystyrir barn pobl ifanc ynglŷn â beth sy’n gwneud y cymorth hwnnw’n dderbyniol ac yn hygyrch.
  5. Galluogi arweinwyr cymunedol i bontio’r bwlch rhwng cymunedau a llywodraeth leol, a gwneud yn siŵr fod gan bobl ddewis a llais wrth benderfynu beth y mae eu hardal nhw ei angen i ategu iechyd meddwl da.

Daw’r ffactorau hyn yn bwysicach fyth wrth i ni ystyried casgliadau arolwg ar-lein (o 2,522 o oedolion ifanc yn y DU rhwng 16-25 oed) a gynhaliwyd gennym yn y Sefydliad Iechyd Meddwl gydag YouGov ym mis Awst 2019. Dengys yr arolwg fod mwy nag 1 o bob 5 oedolyn ifanc (21%) yn dweud bod y prif fan lle y maent yn byw yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl, mai 54% yn unig o oedolion ifanc sy’n teimlo y gallant siarad am eu hemosiynau gydag eraill, bod chwarter o oedolion ifanc yn dweud eu bod yn teimlo diffyg cwmnïaeth “yn aml” (25%), a bod rhywfaint yn llai nag 1 o bob 7 oedolyn ifanc (14%) yn dweud eu bod yn teimlo nad oes ganddynt oedolyn y gallant ymddiried ynddo i ofyn am gyngor a chymorth pan fydd problem yn codi (e.e. problem ariannol, iechyd meddwl ac ati).

1 o bob 5
Mwy nag 1 o bob 5 oedolyn ifanc (21%) yn dweud bod y prif fan lle y maent yn byw yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl.
1 o bob 7
Bod rhywfaint yn llai nag 1 o bob 7 oedolyn ifanc (14%) yn dweud eu bod yn teimlo nad oes ganddynt oedolyn y gallant ymddiried ynddo i ofyn am gyngor a chymorth pan fydd problem yn codi.
29%
Dywed 29% o oedolion ifanc fod lle maent yn byw yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl.

Upheaval, uncertainty and change in adulthood

Our report 'State of a Generation: Upheaval, uncertainty and change' focuses on a study of four life transitions and their impact on our mental health.

Read the report
Graphic for State of a Generation reports

A-Z Topic: Children and young people

Mental health problems affect around one in six children. They include depression, anxiety and conduct disorder (a type of behavioural problem), and are often a direct response to what is happening in their lives.

Find out more

Statistics: Children and young people

We take a life-course approach to mental health because good mental health begins in infancy. 20% of adolescents may experience a mental health problem in any given year.

Find out more

A-Z Topic: Prevention and mental health

Prevention is an important approach to improving mental health. It means stopping mental health problems from developing, getting worse or coming back.

Find out more

Statistics: Prevention and early intervention

Despite the cost-effectiveness of preventing mental health problems in the long term, there are gaps in the research base on prevention of mental ill-health.

Find out more