Ymchwil newydd: problemau iechyd meddwl yn costio o leiaf £4.8 biliwn y flwyddyn i economi cymru

Mae adroddiad ar y cyd y Sefydliad Iechyd Meddwl ac Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain yn archwilio maint y costau

Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i atal cost-effeithiol mewn strategaeth iechyd meddwl newydd

Mae problemau iechyd meddwl yn costio o leiaf £4.8 biliwn y flwyddyn i economi Cymru yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddir heddiw gan y Sefydliad Iechyd Meddwl ac Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain gyda chymorth gan Brifysgol Abertawe.

Mae bron i dri chwarter y gost (72%) o ganlyniad i golli cynhyrchiant pobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl a chostau gofalwyr anffurfiol di-dâl sy'n cymryd llawer iawn o gyfrifoldeb am ddarparu cymorth iechyd meddwl yn ein cymunedau.

Mae’r gost ar draws y DU o leiaf £117.9 biliwn – sy’n cyfateb i tua 5 y cant o Gynnyrch Domestig Gros y DU. Ledled y DU cofnodwyd 10.3 miliwn o achosion o salwch meddwl dros gyfnod o flwyddyn, ac iselder oedd y trydydd achos mwyaf cyffredin o anabledd. 

Mae’r adroddiad, ‘Yr achos economaidd dros fuddsoddi mewn atal cyflyrau iechyd meddwl yn y DU’, yn dadlau’r achos dros ymagwedd at iechyd meddwl sy’n seiliedig ar atal a fyddai’n gwella lles meddwl tra’n lleihau costau economaidd iechyd meddwl gwael.

Dywedodd Dr Jenny Burns, Cyfarwyddwr Cyswllt Y Sefydliad Iechyd Meddwl yng Nghymru: “Mae’r adroddiad hwn nid yn unig yn amlinellu costau economaidd enfawr iechyd meddwl gwael ond hefyd y cyfle sydd gennym i atal problemau iechyd meddwl, i gefnogi pobl ledled Cymru i fyw’n dda, ac i arbed symiau sylweddol o arian i’n heconomi. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r dystiolaeth o’n hadroddiad wrth ddatblygu’r strategaeth iechyd meddwl newydd eleni. Mae’n hanfodol ystyried yr arbedion a’r manteision tymor hir y gall canolbwyntio ar atal iechyd meddwl gwael eu cynnig. Ni allwn fforddio’r gost i iechyd meddwl na’n heconomi i barhau i geisio defnyddio triniaeth fel ffordd allan o argyfwng iechyd meddwl cynyddol.”

Mae ymchwil a gasglwyd o’r DU ac yn rhyngwladol yn dangos y budd economaidd posibl i iechyd y cyhoedd ac i raglenni sy’n targedu ac yn atal problemau iechyd meddwl ac yn grymuso mwy o bobl i fyw’n dda. Er enghraifft, drwy fynd i’r afael â materion fel materion iechyd meddwl amenedigol, bwlio, ac ynysu cymdeithasol ymhlith pobl hŷn.

The economic case for investing in the prevention of mental health conditions in the UK

Mae mentrau eraill â thystiolaeth dda yn cynnwys hyrwyddo rhianta cadarnhaol, mynediad cyflym at gymorth seicolegol a seicogymdeithasol i bobl ag anghenion canfyddedig ac adeiladu gweithleoedd cefnogol a chynhwysol.

Mae nifer cynyddol o astudiaethau yn adrodd ar yr enillion sylweddol ar fuddsoddiad o raglenni rhianta. Mae dulliau a chostau’n amrywio, ond mae’r rhai a aseswyd yn y modd hwn yn cwmpasu cyfnod amser hir ac yn nodi enillion cadarnhaol o hyd at £15.80 mewn arbedion tymor hir am bob £1 a wariwyd ar gyflwyno’r rhaglen.

Yn yr un modd, canfu adolygiad o ymyriadau yn y gweithle arbedion o £5 am bob £1 a fuddsoddwyd mewn cymorth iechyd meddwl.

Dywedodd prif awdur yr adroddiad, David McDaid, Cymrawd Ymchwil Broffesiynol Cyswllt mewn Polisi Iechyd ac Economeg Iechyd yn Ysgol Economeg Llundain: “Mae ein hamcangyfrif o effeithiau economaidd cyflyrau iechyd meddwl, y teimlir llawer ohono ymhell y tu hwnt i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol, yn amcangyfrif ceidwadol. Yr hyn sy’n amlwg yw bod achos economaidd cadarn dros fuddsoddi mewn mesurau ataliol effeithiol, yn enwedig ar adeg pan allai iechyd meddwl y boblogaeth fod yn arbennig o fregus oherwydd pandemig COVID-19. Mae hyn yn gofyn am gamau gweithredu parhaus a chydgysylltiedig pellach, nid yn unig o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, ond ar draws y llywodraeth gyfan.”

Mae’r gost o £117.9 biliwn i’r DU yn debygol o fod yn danamcangyfrif sylweddol o’r costau gwirioneddol – yn seiliedig ar y diffyg data sydd ar gael am rai meysydd allweddol. Er enghraifft, mae costau’r gwasanaeth iechyd yn seiliedig ar nifer y bobl sy’n cael triniaeth ac nid ydynt yn ystyried y nifer fawr o bobl a fyddai’n elwa o driniaeth ond nad ydynt naill ai yn ei chael oherwydd pwysau ar wasanaethau, neu nad ydynt yn ceisio cymorth. Yn ogystal, nid oes unrhyw gostau wedi’u cynnwys ar gyfer lleihad mewn perfformiad yn y gwaith oherwydd problemau iechyd meddwl, costau i systemau cyfiawnder troseddol a thai sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael, y costau sy’n gysylltiedig â phroblemau dibyniaeth, na’r costau sy’n gysylltiedig â hunan-niwed a hunanladdiad.

Darllen yr adroddiad - INSERT LINK

 

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth a cheisiadau am gyfweliad e-bost  [email protected] .

Nodiadau ar gyfer golygyddion

Comisiynwyd yr adroddiad gan y Sefydliad Iechyd Meddwl er mwyn:

  1. darparu amcangyfrif wedi’i ddiweddaru o gostau problemau iechyd meddwl i’r DU 
  2. gwneud yr achos dros fuddsoddi mewn ymyriadau ar sail tystiolaeth er mwyn atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu.

Prif awduron yr adroddiad yw David McDaid a A-La Park, Canolfan Polisi a Gwerthuso Gofal, Adran Polisi Iechyd, Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain.

Yr awduron ar y cyd yw:

  • Gavin Davidson, Prifysgol Queen’s, Belfast
  • Ann John, Prifysgol Abertawe
  • Lee Knifton, Y Sefydliad Iechyd Meddwl
  • Shari McDaid, Y Sefydliad Iechyd Meddwl
  • Alec Morton, Prifysgol Strathclyde
  • Lucy Thorpe, Y Sefydliad Iechyd Meddwl
  • Naomi Wilson, Y Sefydliad Iechyd Meddwl

Mae'r model costio ar sail mynychder a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth yn tynnu ar ddata o gronfa ddata Baich Clefydau Byd-eang (GBD Global Burden of Disease) 2019. Rydym wedi cynnwys 11 o’r 12 categori o gyflyrau iechyd meddwl a ddefnyddir yn y GBD.

Nid yw'r astudiaeth yn cynnwys anableddau deallusol, cyflyrau niwrolegol megis dementia, nac anhwylderau defnyddio alcohol a sylweddau. Mae'r camau gweithredu sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r cyflyrau hyn yn wahanol i'r camau ataliol y canolbwyntir arnynt yn yr adroddiad hwn.

Y costau sydd wedi eu cynnwys: costau iechyd a gofal cymdeithasol; costau cymorth addysgol ychwanegol; costau cynhyrchiant; costau gofal anffurfiol; costau sy'n ymwneud ag ansawdd bywyd.

Costau mewn cyd-destun

  • Cost ariannol geidwadol afiechyd meddwl yn y DU yw £117.9bn. Mae hyn yn cyfateb i 5 y cant o GDG y DU.
  • Cyllideb flynyddol GIG Lloegr ar gyfer y flwyddyn 2019/20 oedd £150.4bn.
  • Roedd cost cynllun ffyrlo’r DU tua £70bn

Costau fesul gwlad

  • Lloegr: £100.8 biliwn
  • Yr Alban: £8.8 biliwn
  • Cymru: £4.8 biliwn
  • Gogledd Iwerddon: £3.4 biliwn

Canran y gost fesul grŵp oedran

  • 0-14 oed: 6%
  • 15-49 oed: 56%
  • 50-69 oed: 27%
  • 70 oed a throsodd: 10%

Gwybodaeth am y Sefydliad Iechyd Meddwl

  • Ein gweledigaeth yw iechyd meddwl da i bawb
  • Mae’r Sefydliad iechyd Meddwl yn gweithio er mwyn atal problemau iechyd meddwl. 
  • Rydym yn gyrru newid tuag at gymdeithas sy’n iach yn feddyliol i bawb, a chefnogwn gymunedau, teuluoedd ac unigolion i fyw bywydau sy’n iachach yn feddyliol gan ganolbwyntio ar y rhai sydd fwyaf mewn perygl.
  • Y Sefydliad yw cartref Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

Gwybodaeth am Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain (LSE)

Mae Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain (LSE) yn brifysgol o fri rhyngwladol sy'n arbenigo yn y gwyddorau cymdeithasol. Mae ei harbenigedd yn rhychwantu ystod eang o ddisgyblaethau o economeg, gwleidyddiaeth a’r gyfraith, i gymdeithaseg, polisi iechyd, cyfrifeg a chyllid. 

Fel un o’r prifysgolion mwyaf rhyngwladol yn y byd, mae amrywiaeth pobl, syniadau a diddordebau’r Ysgol yn ei gwneud yn ganolfan gyffrous ar gyfer ymchwil, addysgu ac ymgysylltu â’r cyhoedd.

 Wedi ei sefydlu ym 1895, mae gweledigaeth wreiddiol yr LSE fel ‘cymuned o bobl a syniadau, sydd wedi’i sefydlu er mwyn gwybod achosion pethau, er lles cymdeithas’ yn parhau’n wir hyd heddiw. Mae’n parhau i ddefnyddio ei harbenigedd a arweinir gan ymchwil i ddylanwadu ar lywodraethau, cyrff anllywodraethol, busnesau ac eraill er mwyn helpu i fynd i’r afael â phroblemau mwyaf enbyd y byd. 

Contact our media team

Press enquiries

Please note that these contact details are for media enquiries only.

If you are a journalist and have a media enquiry, please email  [email protected] . If your call is urgent, call 07702 873 939.

If your call is not answered immediately leave a message and we will get back to you as soon as possible. 

Unfortunately, we do not have the capacity to respond to student media requests but we hope the website is useful in helping with your studies.

Other enquiries

For emotional support, please contact Samaritans helpline on 116 123. For anyone seeking information on help and support in their area, contact Mind Infoline on 0300 123 3393 or text 86463.