Defnyddio celf i fynegi emosiynau gyda myfyrwyr yng Nghymru

This content mentions depression, which some people may find triggering.

Haf diwethaf, fe wnaethom gydweithio gyda Choleg Merthyr Tudful a’r artist Bill Taylor-Beales i helpu myfyrwyr a staff i fynegi emosiynau’n greadigol, mewn amgylchedd diogel a chefnogol trwy’r prosiect ‘Celf ac Enaid’.

Roedd cyfranogwyr y prosiect yn cynnwys aelodau o dîm lles myfyrwyr y coleg a rhai o’r myfyrwyr maen nhw’n gweithio gyda, sydd â phrofiad bywyd o iechyd meddwl gwael ac awtistiaeth, mewn tref sydd ag anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol sylweddol.

Mewn wyth sesiwn dros bedair wythnos, darparwyd cyfranogwyr â deunyddiau celfyddydol, a dangoswyd iddynt sut mae creu gydag amrywiaeth o dechnegau, gan gynnwys braslunio, gwneud printiau, portreadaeth, animeiddiad stop-symud, a gwaith gyda chlai.

Gall y celfyddydau fod yn dda i’n hiechyd meddwl gan eu bod yn rhoi cyfle i bobl archwilio eu teimladau a’u hemosiynau’n greadigol. Yn ogystal, gall celf alluogi pobl i gael sgyrsiau am iechyd meddwl mewn ffordd na all profiadau a gweithgareddau eraill. Gall prosiectau artistig roi cyfleoedd i bobl gymdeithasau a’u helpu i oresgyn teimlo’n unig ac ynysig.

Artwork display
Wales art programme 2022 - a piece of art

Ffurfiodd aelodau’r grŵp gyfeillgarwch yn sydyn, yn enwedig gan eu bod yn gallu cael sesiynau wyneb yn wyneb a gwnaethant brofi manteision lluosog.

"Gwnes i fwynhau archwilio sut i ddarlunio a mynegi emosiynau i ddangos sut rydym ni’n teimlo. Pe na fyddwn yn gwneud hyn, byddwn yn dal i fod yn fy ngwely."

- Chase, un o’r myfyrwyr

"Gwnaeth fy nysgu i beidio â bod yn rhy galed ar fy hun a pheidio â rhoi fy hun dan straen. Rwy'n ei chael hi'n anodd gydag iselder, felly roedd gallu dangos i bobl sut brofiad ydyw drwy'r gwaith celf yn ddefnyddiol tu hwnt."

- Nikola, un o’r myfyrwyr

"Rwy'n teimlo'n fwy fel fi fy hun pan wyf yn gwneud rhywbeth creadigol a diddorol gyda rhywun. Roedd bod yn y sesiynau yn gwneud i mi deimlo'n well ac yn gwella fy hwyliau."

- Cori, un o’r myfyrwyr

"Da oedd ymchwilio i emosiynau fel hyn. Rydym ni i gyd yn dysgu ac yn tyfu, a heb ddealltwriaeth gyflawn ohonom ni ein hunain. Mae bod yn ymwybodol o'n hemosiynau ac eraill yn ein helpu ni i'w rheoli. Mae hyn yn hynod ddefnyddiol i bobl ifanc – yn enwedig yn ein hoedran ni."

- Chaos, un o’r myfyrwyr

Wales art programme 2022 - a piece of art

Dywedodd Rosy Lewis, Swyddog Iechyd Meddwl yng Ngholeg Merthyr Tudful:

"Yn ystod y sesiynau, gwnaethom ystyried llawer o gwestiynau nad ydym yn gallu eu gwneud mewn sefyllfaoedd eraill... ac mae'n ein helpu ni i ffurfio perthynas well gyda'r myfyrwyr. Nid oes rhaid i bethau fod yn gymhleth wrth i chi fynegi eich hun drwy gelf, nid oes angen unrhyw ddawn artistig arnoch i allu cymryd rhan yn y sesiwn ac archwilio mynegiant emosiynau drwy gelf. Mae'n ymwneud â gwarchod eich iechyd meddwl eich hun ond gwneud hynny gyda'n gilydd."

Am ragor o fanylion ynghylch y prosiect hwn, cysylltwch â Rosy Lewis yng Ngholeg Merthyr Tudful.

Cysylltwch â Rosy

If you feel affected by the content you have read, please see our get help page for support.

Related content

How arts can help improve your mental health

We’ve looked at the added value of the arts and how they can keep us happy and in good mental health.

Top tips: looking after your mental health with creativity

Roshane shares how creativity helped him to express his emotions, and a list of creative activities to help you with your own mental health.