Cymorth digidol gan gymheiriaid i bobl â Covid Hir

Location: Wales

Aeth y Sefydliad Iechyd Meddwl a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr â chymorth gan gymheiriaid ar-lein i gefnogi pobl â  Covid Hir yng Ngogledd Cymru.

“Rwy'n teimlo fy mod yn byw bywyd y tu ôl i banel o wydr”.

Mae teimlo eich bod yn cael eich deall, teimlo'n gysylltiedig ag eraill sy'n rhannu eich profiadau, a theimlo'n ddilys yn rhai o'r canlyniadau cadarnhaol niferus y mae pobl yn eu cael o grwpiau cymorth gan gymheiriaid. Mae modelau cymorth gan gymheiriaid yn ymyriad y mae tystiolaeth dda yn perthyn iddynt, ac mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl wedi datblygu arbenigedd sylweddol wrth ddatblygu a chyflwyno dulliau cymorth gan gymheiriaid. 

Un o gryfderau modelau cymorth gan gymheiriaid yw eu gallu i addasu. Maent yn cael eu llunio gan y cyfranogwyr i gyd-fynd â realiti eu bywydau. 

Fe wnaeth y pandemig Covid 19 amharu ar fywydau pawb, gan gael effaith ddinistriol ar lawer. I rai grwpiau o bobl mae pandemig Covid 19 wedi gadael etifeddiaeth barhaol a pharhaus o niwed sy'n parhau i gael effaith o ddydd i ddydd. Un o'r grwpiau hyn yw pobl â Covid Hir. 

Wrth i fywyd ddechrau dychwelyd i normalrwydd i rai pobl, roedd yn rhaid i bobl â Covid Hir addasu i normal newydd. 

“Mae bron fel eich bod chi'n galaru am yr hyn rydych chi wedi'i golli. Mae normal wedi cerdded i ffwrdd oddi wrthym. Rwy'n teimlo bod bywyd wedi'i ddwyn oddi arna' i”.

Cafodd dros 200,000 o bobl yng Nghymru achosion wedi'u cadarnhau o Covid, ac mae ymchwil yn awgrymu bod 1 o bob 3 o'r goroeswyr yn mynd ymlaen i gael diagnosis o gyflwr niwrolegol neu seiciatrig o fewn chwe mis, gan gynnwys gorbryder ac iselder.

Mewn ymateb i’r angen brys hwn, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a’r MHF wedi partneru i ddatblygu ac ymgorffori cymorth iechyd meddwl ochr yn ochr ag ymyriadau i wella symptomau corfforol pobl â Covid Hir.

Gan ddefnyddio arbenigedd MHF, lluniwyd model cymorth gan gymheiriaid ar y cyd â BIPBC a phobl â Covid Hir, i gefnogi a gwella eu hiechyd meddwl.  

Datblygwyd model cymorth gan gymheiriaid digidol arloesol a leihaodd y rhwystrau i gyfranogiad ar gyfer pobl sy’n byw gyda Covid Hir, ac a sicrhaodd well canlyniadau i gyfranogwyr, gydag un cyfranogwr yn disgrifio’r grŵp fel “achubiaeth”.

Gellir ailadrodd y Model Cymorth gan Gymheiriaid Digidol a’i ddatblygu ar raddfa fawr ac mae’n galluogi cyrraedd cyfranogwyr na fyddent yn gallu cael mynediad at grwpiau cymorth cymheiriaid yn bersonol. Yn ogystal â datblygu, profi a dangos tystiolaeth o fodel o Gymorth gan Gymheiriaid Digidol i bobl â Covid Hir, creodd MHF becyn cymorth ar gyfer BIPBC hefyd. Mae’r pecyn cymorth yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi a chefnogi staff a phartneriaid BIPBC i gyflwyno a gwreiddio’r model Cymorth gan Gymheiriaid Digidol gan alluogi iechyd meddwl pobl â Covid Hir i gael ei wella ynghyd â’u symptomau corfforol.

“Rwy’n grac nad ydw i yr un person ag oeddwn i 2 flynedd yn ôl. Rwyf wedi colli fy swydd; wedi gorfod symud i fyngalo…Does neb yn deall oni bai eich bod wedi ei gael.”

I gael gwybod rhagor am ddatblygu dulliau cymorth digidol gan gymheiriaid edrychwch ar yr adnoddau digidol a gafodd eu creu, neu cysylltwch â ni - [email protected]

Toolkit

The digital peer support training toolkit

 An on-demand how-to guide for facilitators. 

Who is this resource aimed at? 

  • Organisations with an interest in designing supportive interventions for people with Long Term Health Conditions (LTHC)
  • Organisations with an interest in supporting people with Long Covid. 
  • People in organisations with an interest in setting up digital peer support groups.

Video length: 21 minutes

Adnoddau hyfforddiant cymorth cymheiriaid digidol

Canllaw 'ar alw'  i hwyluswyr.

Ar gyfer pwy mae’r  adnodd hwn?

Sefydliadau sydd â diddordeb mewn dylunio ymyriadau cefnogol ar gyfer pobl sydd â Chyflyrau Iechyd Tymor Hir. Sefydliadau sydd â diddordeb mewn cefnogi pobl sydd â Covid Hir. Pobl mewn sefydliadau sydd â diddordeb mewn sefydlu grwpiau cymorth cymheiriaid digidol.